Trawsnewid rhwng unedau metrig ac imperialLitrau, peintiau a galwyni

Oherwydd bod cydweithrediad rhyngwladol mor bwysig i ddiwydiant a'r economi, mae'n hanfodol gallu trosi rhwng unedau metrig ac imperial.

Part ofMathemateg RhifeddGeometreg a Mesur

Litrau, peintiau a galwyni

Mae'r rhan fwyaf ohonom ni'n gwybod bod can o ddiod feddal yn 330 ml a bod potel fawr o laeth yn dal 4 peint, ond sut ydyn ni'n newid rhwng y ddau faint hyn?

Mae dealltwriaeth o'r trosiad hwn yn werthfawr iawn ym mywyd bob dydd, oherwydd yn y DU rydyn ni'n tueddu i ddefnyddio mesuriadau imperial a metrig pan fyddwn ni'n siarad am gynhwysedd.

Mae disgwyl i ti wybod bod 1 litr yn 1.75 peint yn fras. Dylet ti hefyd fod yn ymwybodol bod 8 peint mewn galwyn neu 4.5 litr yn fras

Question

Mae Jim yn gwerthu diodydd mewn digwyddiad elusennol lleol. Mae wedi dod â 10 litr o lemonêd efo fo ac mae'n bwriadu gweini'r diodydd mewn gwydrau hanner peint. Yn fras, faint o ddiodydd lemonêd bydd e'n gallu gwerthu?

Question

Mae Fiona yn siopa am gar newydd ac yn dod o hyd i un sy'n gallu mynd 54 milltir fesul galwyn o betrol. Os yw litr o betrol yn costio £1.20, faint fyddai'r gost iddi fesul milltir?