Er gwaethaf yr hyn wyt ti’n meddwl, màs yw’r maint sy’n cael ei fesur mewn cilogramau, gramau, pwysi a stonau. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei alw’n bwysau ar gam. Mae pwysau’n cael ei fesur mewn Newtonau.
Question
Mae Fred eisiau cyfrifo ei BMIIndecs màs y corff. Mae'n cael ei gyfrifo wrth rannu màs person (mewn kilogramau) a sgwâr eu taldra (mewn metrau). ond i wneud hyn mae angen iddo wybod ei fàs mewn kg. Mae'n gwybod mai 231 pwys yw ei fàs. Beth fyddai hyn yn fetrig?
231 ÷ 2.2 = 105.
231 lb = 105 kg.
Question
Mae Tim yn pobi cacen ar gyfer swper arbennig. Mae'r rysáit angen 500 g o siwgr, ond mae clorian Tim wedi'i labelu mewn pwysi. Faint o siwgr sydd ei angen arno mewn pwysi?