Patrymau rhifFfactorau a rhifau cysefin

Cyfres o rifau sy’n dilyn rheol ydy patrwm rhif. Mae eilrifau ac odrifau, rhifau sgwâr, ciwb a thriongl, lluosrifau, yn ogystal â phatrymau rhif mewn diagramau, yn enghreifftiau o batrymau rhif.

Part ofMathemategPatrymau a dilyniannau

Ffactorau a rhifau cysefin

Ffactorau rhifau naturiol

Mae’r adran hon yn ymdrin â rhifau naturiol – sef y rhifau rydyn ni’n eu defnyddio i gyfrif – y set o rifau \({1,2,3,4,5,6,...}\)

Ffactor rhif ydy unrhyw rif naturiol sy’n rhannu’n union i mewn i’r rhif hwnnw. Felly mae \({3}\) yn ffactor o \({60}\) gan fod \({3}\) yn rhannu yn union i \({60}\), ddau ddeg o weithiau.

Mae gan bob rhif, heblaw \({1}\), o leiaf ddau ffactor – sef \({1}\) a’r rhif ei hun.

Mae gan lawer o rifau ffactorau eraill. Er enghraifft mae gan y rhif \({6}\) bedwar ffactor, sef \({1},~{6},~{2}\) a \({3}\).

Mae hi’n ddefnyddiol weithiau i ysgrifennu ffactorau rhif mewn parau sy’n lluosi i wneud y rhif:

  • \({1}\times{6} = {6}\)
  • \({2}\times{3} = {6}\)

Question

Ysgrifenna ffactorau’r rhifau canlynol:

a) \({8}\)

b) \({14}\)

c) \({20}\)

ch) \({24}\)

d) \({45}\)

dd) \({17}\)

Rhifau cysefin

Yn y cwestiwn diwethaf, dim ond un rhif oedd â dau ffactor yn unig. Mae rhifau sydd â dau ffactor yn unig yn rifau pwysig dros ben. Y rhifau hyn ydy’r rhifau cysefin.

Question

Ysgrifenna’r \({10}\) rhif cysefin cyntaf.

Question

Ysgrifenna bob rhif cysefin sydd hefyd yn eilrif.

Question

Mae’n bosib ysgrifennu pob eilrif o \({4}\) ymlaen fel cyfanswm dau rif cysefin – gwna hyn ar gyfer pob eilrif hyd at \({20}\).