Dilyniannau cwadratigCanfod y term nesaf

Setiau o rifau sydd wedi eu cysylltu mewn rhyw fodd ydy dilyniannau. Mewn dilyniant cwadratig, mae’r gwahaniaethau rhwng y termau’n newid. Gall fod patrwm er nad ydy'r gwahaniaethau'n gyson.

Part ofMathemategPatrymau a dilyniannau

Canfod y term nesaf

Edrycha ar y dilyniant hwn:

Diagram dilyniant cwadratig

Mae’r gwahaniaethau rhwng y termau i gyd yn wahanol.

Ond, os wyt ti’n edrych ar y gwahaniaeth rhwng y gwahaniaethau mae yna batrwm. Mae hyn yn golygu mai dilyniant cwadratig sydd yma.

Diagram dilyniant cwadratig

\({+3},~{+5},~{+7},~{+9}\) ydy’r gwahaniaethau cyntaf.

\({+2},~{+2},~{+2}\) ydy’r ail wahaniaethau.

Question

Defnyddia’r patrwm gwahaniaethau hwn i ganfod term nesaf y dilyniant:

Diagram dilyniant cwadratig

More guides on this topic