Patrymau rhifRhifau sgwâr

Cyfres o rifau sy’n dilyn rheol ydy patrwm rhif. Mae eilrifau ac odrifau, rhifau sgwâr, ciwb a thriongl, lluosrifau, yn ogystal â phatrymau rhif mewn diagramau, yn enghreifftiau o batrymau rhif.

Part ofMathemategPatrymau a dilyniannau

Rhifau sgwâr

Mae rhifau sgwâr yn cael eu creu drwy luosi rhif ag ef ei hun.

Dyma’r pedwar rhif sgwâr cyntaf:

\({1}\times{1} = {1}\)

\({2}\times{2} = {4}\)

\({3}\times{3} = {9}\)

\({4}\times{4} = {16}\)

Mae’n bosib cyfleu pob rhif sgwâr fel sgwâr o ddotiau.

Diagram rhifau sgwâr

Question

Ysgrifenna’r chwe rhif sgwâr nesaf (o \({5}\) ymlaen).