Cyfres o rifau sy’n dilyn rheol ydy patrwm rhif. Mae eilrifau ac odrifau, rhifau sgwâr, ciwb a thriongl, lluosrifau, yn ogystal â phatrymau rhif mewn diagramau, yn enghreifftiau o batrymau rhif.
Part ofMathemategPatrymau a dilyniannau
Mae’n bosib cyfleu rhifau triongl fel triongl o ddotiau.
Dyma’r rhifau triongl:
Beth ydy’r rhif triongl nesaf ar ôl \({21}\)?
Bydd gan res nesaf y triongl \({7}\) dot. Felly’r rhif nesaf ydy:
\({1} + {2} + {3} + {4} + {5} + {6} + {7} = {28}\)