Archwilio patrymau rhif
- Mae \({2},~{6},~{10},...\) yn batrwm rhif sy’n dilyn y rheol ‘adio \({4}\)’.
Y rhif nesaf ydy \({10} + {4} = {14}\)
- Mae \({81},~{27},~{9}, ....\) yn batrwm rhif sy’n dilyn y rheol 'rhannu â \({3}\)'.
Y rhif nesaf ydy \({9}\div{3} = {3}\)
- Mae \({5},~{8},~{14}, ...\) yn batrwm rhif sy’n dilyn y rheol 'tynnu \({1}\), lluosi â \({2}\)'.
Y rhif nesaf ydy \(({14} -{1})\times{2} = {26}\)
Term yw'r enw a roddir ar bob rhif mewn patrwm rhif. Felly yn y patrwm rhif \({2},~{6},~{10} ...\) y term cyntaf ydy \({2}\), yr ail derm ydy \({6}\) a’r trydydd term ydy \({10}\).
Question
Ysgrifenna’r rheol a’r ddau derm nesaf yn y patrwm rhif: \({2},~{4},~{8},...\) Wedyn gwiria dy ateb.
Y rheol ydy ‘lluosi â \({2}\)’ a’r ddau derm nesaf ydy \({16}\) a \({32}\).
Edrycha ar sut mae'r rhif yn newid o un term i'r llall. Edrycha i weld pa reol sy’n mynd â thi o’r term cyntaf i’r ail derm, wedyn gwiria fod yr un rheol yn mynd â thi o’r ail derm i’r trydydd.
Os nad ydy hyn yn gywir, rhaid canfod rheol wahanol i gyrraedd yr ail derm ac wedyn gwirio bod honno’n mynd â thi ymlaen i’r trydydd rhif.