Pam defnyddio band eang?
Mae’r rhan fwyaf o bobl y Deyrnas Unedig yn defnyddio band eangCysylltiad rhyngrwyd cyflym. i gael mynediad i’r rhyngrwyd gan ei fod yn llawer cyflymach na’r dulliau eraill. Mae cysylltiad band eang yn caniatáu i tudalen weTudalen sydd wedi’i chynllunio ar gyfer porwr gwe, ac sy’n cael ei gweld mewn porwr gwe. llawn nodweddion (rhai sy’n cynnwys llawer o graffigwaithDelwedd weledol sy’n cael ei dangos ar sgrin neu ei storio fel data., fideos, sain, animeiddiadau ac yn y blaen) gael eu llwytho i lawrCopïo ffeil o’r rhyngrwyd i gyfrifiadur neu ddyfais. yn gyflym. Mae hefyd yn caniatáu i ddefnyddwyr lwytho ffeiliau mawr (fel ffeiliau cerddoriaeth neu glipiau fideo) i lawr yn gyflym. Mae cysylltiad rhyngrwydCysylltiad â’r rhyngrwyd gan gyfrifiadur neu ddyfais sy’n gallu defnyddio’r rhyngrwyd. cyflymach hefyd yn lleihau’r amser y mae’n ei gymryd i’r dudalen newydd ymddangos ar ôl i ti glicio ar gyswllt.
Mae’r amseroedd llwytho i lawr yn cael eu cyfrifo ar sail yr amser llwytho i lawr damcaniaethol cyflymaf ar gyfer pob cysylltiad.
Mae ISPs yn hysbysebu cyflymder drwy ddweud 'hyd at', er enghraifft, 'hyd at 8 Mb'. Mae hyn yn golygu mai’r cyflymder mwyaf y byddi di’n ei gael yw 8 Mb ond nad wyt ti’n debygol o gael cyflymder o 8 Mb drwy’r adeg.