Mathau o rwydweithiauCysylltiadau digidol

Ystyr rhwydwaith yw nifer o gyfrifiaduron sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd er mwyn iddyn nhw allu rhannu adnoddau. Fel arfer mae gweinydd yn darparu gwasanaethau fel lle i storio ffeiliau ac ebost. Mae’r rhyngrwyd yn cysylltu rhwydweithiau cyfrifiadurol â’i gilydd.

Part ofTGChRhwydweithiau

Cysylltiadau digidol

ADSL

Mae ADSL (Asymmetric Digital Subscriber Line) yn darparu cyflymder cysylltu o hyd at 24 ac yn defnyddio llinell ffôn i dderbyn a thrawsyrru .

Dyfeisiau sydd eu hangen er mwyn cwblhau cysylltiad digidol â’r rhyngrwyd.

Mae’r cyflymder ar gyfer trawsyrru data yn dibynnu ar nifer o ffactorau:

  • Cafodd llinellau ffôn eu cynllunio i gludo signalau llais – nid data. Gall ansawdd signalau amrywio o’r naill linell i’r llall, ac er nad yw hynny’n effeithio ar signalau llais, mae’n effeithio ar ddata sy’n cael eu trawsyrru.
  • Mae’r pellter rhwng dy gartref a’r yn effeithio ar pa mor gyflym y mae data’n cael eu trawsyrru. Y pellter mwyaf ar gyfer technoleg ADSL yw 4 km. Mae’n bosibl na fydd y dechnoleg yn gweithio os yw’r pellter yn fwy na hyn.

Mae angen modem/ADSL er mwyn cael mynediad i ryngrwyd dros ADSL. Fel arfer mae hyn yn cael ei ddarparu gan yr .

Mae’n dal yn bosibl gwneud galwadau ffôn tra mae’r cyfrifiadur wedi’i gysylltu â’r rhyngrwyd.

Cebl

Nid yw cwmnïau cebl yn defnyddio llinellau ffôn traddodiadol i ddarparu mynediad i ryngrwyd band-eang. Mae ganddyn nhw eu eu hunain, cyfuniad o gebl copr cyfechelog a .

Oherwydd eu seilwaith pwrpasol gall cwmnïau cebl ddarparu cyflymder o hyd at 50 Mbps – sy’n llawer cyflymach na’r cyflymder ADSL mwyaf sydd ar gael (24 Mbps).

Mae angen modem/llwybrydd cebl er mwyn cael mynediad i ryngrwyd band-eang dros gebl. Bydd yn cael ei ddarparu gan yr ISP fel arfer.

Nid yw’r llinell ffôn yn cael ei defnyddio felly byddi’n dal i allu gwneud a derbyn galwadau ffôn.