Manteision ac anfanteision rhwydweithiau
Manteision
- Mae rhannu dyfeisiau, er enghraifft argraffyddion, yn arbed arian.
- Mae cael un drwydded (meddalweddY rhaglenni, apiau a data sydd mewn system gyfrifiadurol. Unrhyw ran o system gyfrifiadurol sydd ddim yn rhan ffisegol.) ar gyfer safle yn debygol o fod yn rhatach na phrynu nifer o drwyddedau ar wahân.
- Mae’n bosibl rhannu ffeiliau yn hawdd rhwng defnyddwyr.
- Gall defnyddwyr rhwydwaithGrŵp o gyfrifiaduron/dyfeisiau rhyng-gysylltiedig. gyfathrebu drwy ebostPost electronig. Dull o anfon negeseuon a ffeiliau at bobl eraill. a negesydd sydynRhaglen (ap) sy’n caniatáu i ddefnyddwyr anfon negeseuon sydyn (testun) at ei gilydd..
- Mae diogelwch yn dda – yn wahanol i beiriannau unigol ni all defnyddwyr weld ffeiliau defnyddwyr eraill.
- Mae’n hawdd gwneud copi wrth gefnCopi o ffeiliau pwysig sy’n cael ei gadw ar wahân rhag ofn i’r ffeiliau gwreiddiol gael eu colli neu eu niweidio. o dataGwerthoedd, llythrennau neu rifau fel arfer. gan fod y data i gyd yn cael eu storio ar y gweinydd ffeiliauCyfrifiadur sy’n rhan o rwydwaith, ac sy’n gyfrifol am storio a rheoli ffeiliau data’n ganolog. Gall gweithfannau sydd ar yr un rhwydwaith gael mynediad iddo..
Anfanteision
- Gall prynu’r cebl rhwydwaith a’r gweinyddion ffeiliau fod yn gostus.
- Mae rheoli rhwydwaith mawr yn dasg gymhleth. Mae angen hyfforddiant ac fel arfer mae angen cyflogi rheolwr rhwydwaith.
- Os bydd y gweinydd ffeiliau’n torri ni fydd modd mynd at y ffeiliau sydd arno. Mae’n bosibl y byddai’r ebost yn gweithio o hyd os yw ar weinydd ar wahân. Bydd modd defnyddio’r cyfrifiaduron o hyd ond ni fyddant wedi’u cysylltu.
- Gall firwsRhaglen fach sydd wedi’i hysgrifennu er mwyn achosi niwed i gyfrifiadur. ymledu i gyfrifiaduron eraill mewn rhwydwaith cyfrifiadurol.
- Mae perygl o hacioCael mynediad i gyfrifiadur heb ganiatâd., yn enwedig â rhwydweithiau ardal eang. Mae angen gweithdrefnau diogelwch er mwyn atal camddefnydd o’r fath, er enghraifft mur gwarchodRhaglen (ap) sy’n atal cysylltiad heb ei awdurdodi â’r rhyngrwyd, ac o’r rhyngrwyd..