Rhwydwaith cylch
Mewn rhwydwaith cylch mae pob dyfais (gweithfanCyfrifiadur sydd wedi’i gysylltu â rhwydwaith., gweinyddCyfrifiadur sy’n cadw data i’w rhannu â chyfrifiaduron eraill. Mae gweinydd gwe yn storio ac yn rhannu gwefannau., argraffydd) wedi’i chysylltu â dwy ddyfais arall – mae hyn yn ffurfio cylch i’r signalau deithio o gwmpas. Mae pob pecyn o dataGwerthoedd, llythrennau neu rifau fel arfer. ar y rhwydwaith yn teithio mewn un cyfeiriad, ac mae pob dyfais yn derbyn pob pecyn yn ei dro nes bydd y ddyfais gyrchfan yn ei dderbyn.
Manteision ac anfanteision rhwydwaith cylch
Gall y math hwn o rwydwaith drawsyrru data’n gyflym, hyd yn oed os oes nifer fawr o ddyfeisiau wedi’u cysylltu, gan mai dim ond i un cyfeiriad y mae’r data’n llifo, felly ni fydd data’n gwrthdaro. Yr anfantais fwyaf, fodd bynnag, yw y bydd y rhwydwaith cyfan yn methu os bydd y prif gebl yn methu neu os oes nam ar unrhyw ddyfais.