Rhwydwaith bws
Mewn rhwydwaith bws mae pob gweithfanCyfrifiadur sydd wedi’i gysylltu â rhwydwaith., gweinyddCyfrifiadur sy’n cadw data i’w rhannu â chyfrifiaduron eraill. Mae gweinydd gwe yn storio ac yn rhannu gwefannau. ac argraffydd wedi’i gysylltu ag un cebl (y bws). Ym mhob pen i’r cebl mae terfynellDyfais sy’n terfynu signalau i’w hatal rhag adlewyrchu yn ôl i lawr y llinell. wedi’i gosod er mwyn atal signalau rhag adlewyrchu’n ôl i lawr y bws.
Rhwydwaith bws, yn cysylltu nifer o weithfannau, gweinyddion ac argraffyddion
Manteision ac anfanteision rhwydwaith bws
Mantais rhwydwaith bws yw:
- mae’n rhad i’w osod, a does dim angen llawer o gebl
Anfanteision rhwydwaith bws yw:
- os na fydd y prif gebl yn gweithio, neu os caiff ei ddifrodi, ni fydd unrhyw ran o’r rhwydwaith yn gweithio
- wrth i fwy o weithfannau gael eu cysylltu bydd perfformiad y rhwydwaith yn arafach oherwydd gwrthdrawiadau data
- mae pob gweithfan ar y rhwydwaith yn "gweld" yr holl ddata sydd ar y rhwydwaith – mae hyn yn risg o ran diogelwch