Marchnata dy syniad
Gall meddwl yn greadigol olygu:
- datblygu ffordd o feddwl am rywbeth
- newid y ffordd mae rhywun arall yn edrych ar rywbeth
Mae’r negeseuon sy’n cael eu cyfathrebu drwy dechnegau marchnata yn aml iawn o ganlyniad i waith meddwl creadigol helaeth.
Beth yw technegau marchnata?
Dulliau o hyrwyddo nwyddau a gwasanaethau yw technegau marchnata. Mae’r dulliau hyn yn gallu:
- cyfathrebu gwybodaeth
- ysgogi diddordeb cwsmeriaid
- cymell pobl i brynu
Un o rolau adran farchnata mewn cwmni yw gwneud defnydd effeithiol o ddulliau marchnata er mwyn cyflawni nodau ac amcanion busnes.
Mae’n bwysig iawn meddwl am y neges mae angen ei chyflwyno, ac ystyried pwy yw'r gynulleidfa darged.
Weithiau, bydd busnesau yn defnyddio cyfuniad o dechnegau er mwyn cynyddu’r tebygolrwydd bydd y neges arfaethedig yn cyrraedd y gynulleidfa darged.