Creadigedd ac arloesiDefnyddio dadansoddiad SWOT

Gall meddwl yn greadigol helpu i greu nwyddau a gwasanaethau arloesol. Rhaid i fusnesau ddatblygu cymysgedd marchnata effeithiol ar gyfer y nwyddau hyn er mwyn diwallu anghenion eu cwsmeriaid.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her menter a chyflogadwyedd

Defnyddio dadansoddiad SWOT

Mae’n bosibl gwneud dadansoddiad SWOT ar gyfer gwahanol syniadau a’i arddangos mewn matrics fel yr un yn y diagram.

Diagram yn dangos dadansoddiad SWOT; Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd, Bygythiadau.

Mae adnabod cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau hefyd yn gallu dy helpu i benderfynu beth yw’r camau nesaf wrth greu syniadau.

Enghraifft bywyd go iawn

Edrycha ar yr enghraifft isod o ddadansoddiad SWOT ar gyfer y syniad o agor bar salad mewn ysgol.

CryfderauLleoliad gwychNatur unigrywTrefniadau rheoli cryf
GwendidauLleoliad gwaelDim llawer o elwDiffyg profiad
CyfleoeddDeddfwriaeth y llywodraethNewidiadau ym mhatrymau prynu defnyddwyrCynnydd mewn ymchwil a datblygu
BygythiadauCystadleuwyrY tywyddSafonau amgylcheddol
Cryfderau
Lleoliad gwych
Natur unigryw
Trefniadau rheoli cryf
Gwendidau
Lleoliad gwael
Dim llawer o elw
Diffyg profiad
Cyfleoedd
Deddfwriaeth y llywodraeth
Newidiadau ym mhatrymau prynu defnyddwyr
Cynnydd mewn ymchwil a datblygu
Bygythiadau
Cystadleuwyr
Y tywydd
Safonau amgylcheddol

Cryfder

Eitemau salad, gan gynnwys tomatos a chiwcymbrau yn barod i’w gweini mewn bar salad

Mae’r lleoliad yn gryfder, oherwydd mae llawer o gwsmeriaid posibl yno. Felly, er mwyn mynd â’r syniad hwn yn ei flaen, gallai rhywun ystyried technegau hyrwyddo addas.

Gwendid

Mae’n cymryd amser i ddatblygu enw da, a gallai hyn fod yn wendid ar y dechrau. Er hyn, mae’n bosibl datblygu enw da drwy annog cwsmeriaid posibl i flasu samplau am ddim.

Cyfle

Mae ymrwymiad y llywodraeth i fwyta’n iach yn gyfle, oherwydd efallai bod modd cael grant i helpu i sefydlu’r bar salad.

Bygythiad

Mae cystadleuwyr lleol yn fygythiad, ond byddai’n bosibl ymdopi â'r sefyllfa drwy beidio â gadael i'r disgyblion adael safle'r ysgol yn ystod amser cinio.