Cynhyrchu syniadau
Mae meddwl yn greadigol yn dod yn haws i rai pobl nag i eraill. Mae rhai pobl hefyd yn dweud bod meddwl yn greadigol yn rhywbeth sy’n dod yn naturiol i rai pobl, ond nid i bawb.
Ond yn ôl ymchwil gan Brifysgol Harvard mae 85 y cant o greadigedd yn ymddygiad mae rhywun yn ei ddysgu, felly mae hi'n bosibl i wella dy allu i feddwl yn greadigol.
Mae’n well cael digon o syniadau i rai ohonynt fod yn anghywir, na bod yn iawn bob amser drwy gael dim syniadau o gwbl
Mae llawer o wahanol dechnegau sy’n cael eu defnyddio er mwyn cynhyrchu syniadau.
Cysylltu
Un o’r technegau hyn yw cysylltiadDod â syniadau nad oes cysylltiad rhyngddynt at ei gilydd, a’u cysylltu.. Mae’n golygu gwneud cysylltiadau rhwng syniadau sy’n ymddangos yn hollol wahanol ar yr olwg gyntaf.
Mae’r entrepreneur llwyddiannus sy’n gyfrifol am frand Virgin, Richard Branson, yn gefnogwr brwd o’r syniad o greu cysylltiadau.
Rwyf bob amser yn synnu, wrth edrych yn ôl, pa mor dda mae popeth yn ffitio i’w gilydd yn Virgin. Erbyn hyn mae gan y brand gefnogwyr teyrngar sy’n hedfan gyda ni, yn cadw’n heini gyda ni, yn defnyddio ein gwasanaethau band eang a ffonau symudol, yn defnyddio ein trenau ac yn yfed ein gwinoedd, a chyn bo hir byddant yn gallu bancio gyda ni.
Enghraifft bywyd go iawn

Pan oedd Spencer Silver yn gweithio i gwmni 3M roedd yn ceisio creu glud cryf iawn i’w ddefnyddio yn y diwydiant adeiladu awyrennau. Yn lle hynny, llwyddodd i greu glud gwan iawn y gallai ei ailddefnyddio dro ar ôl tro. Ar y pryd, allai Silver ddim meddwl am bwrpas i’r glud gwan hwn.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd un o gydweithwyr Silver, dyn o’r enw Art Fry yn canu mewn côr lleol. Roedd yn colli’r llyfrnodau i gadw tudalennau yn ei lyfr emynau o hyd. Yna’n sydyn gwelodd gysylltiad rhwng glud gwan Silver a’r llyfrnodau oedd yn disgyn allan o’i lyfr emynau. Ac o’r fflach honno o ysbrydoliaeth datblygodd syniad y nodiadau Post-It.
Question
Perchennog siop anifeiliaid anwes yw Jenny Marsh. Gemydd yw Jake Jones. Maen nhw eisiau cychwyn busnes gyda’i gilydd. Pa gysylltiadau wyt ti'n credu dylen nhw eu hystyried wrth feddwl am y math o gynnyrch neu wasanaethau i'w cynnig?
Mae rhai pobl yn gweld yr ateb yn hawdd iawn, ac mae eraill yn ei weld yn anodd iawn. Mae’n dibynnu i ba raddau mae rhywun wedi datblygu ei allu i greu cysylltiadau. Dyma rai syniadau:
- coleri anifeiliaid anwes â gemwaith arnynt
- gwasanaeth yn cynnig cerfluniau o anifeiliaid anwes pobl
- gemwaith ar gyfer anifeiliaid anwes
- gemwaith unigryw i bobl yn seiliedig ar eu hanifeiliaid anwes
- powlenni bwyd ci arianblatiog
Rhagor o dechnegau
- Holi – Gofyn pam, sut a beth, yn hytrach na derbyn popeth yn ddi-gwestiwn.
- Arsylwi – Mae hyn yn fwy na sylwi ar bethau. Meddylia sut wnest ti deithio i’r ysgol yn ddiweddar. Wnest ti sylwi ar bob rhan o’r daith ac wyt ti’n gallu cofio’r daith? Mae arsylwi yn golygu defnyddio dy synhwyrau i gyd a rhoi sylw i gynifer o fanylion ag sy’n bosibl. Mae hyn yn golygu beth rwyt ti’n ei weld, ei arogli, ei glywed a’i deimlo.
- Arbrofi – Mae hyn yn golygu rhoi cynnig ar bethau newydd, neu ar ffyrdd gwahanol o wneud pethau. Google oedd y cwmni cyntaf i gyflwyno’r syniad o amser 80/20. Mae hyn yn golygu bod gweithwyr Google yn cael treulio 20 y cant o’u hamser yn arbrofi gyda syniadau newydd.
- Rhwydweithio – Mae hyn yn golygu cynnwys pobl a syniadau sy’n wahanol i dy rai di. Gan fod cymaint o amrywiaeth mae hyn yn siŵr o dy helpu i feddwl am syniadau.
Question
Mewn tri munud, gwna restr o wahanol ffyrdd o ddefnyddio clip papur.
- Os oedd gen ti lai na deg cynnig, mae gen ti'n sicr le i wella dy sgiliau meddwl yn greadigol.
- Os oedd gen ti rhwng 11 a 15 o gynigion, mae dy sgiliau meddwl yn greadigol wedi datblygu’n weddol, ond mae lle i wella eto.
- Os oedd gen ti fwy nag 16 o gynigion, mae dy sgiliau meddwl yn greadigol wedi datblygu’n dda iawn yn barod.