Dadansoddiad SWOT
Bydd gwneud dadansoddiad SWOT Dull o asesu cryfderau a gwendidau ynghyd â chyfleoedd a bygythiadau allanol. Acronym yw SWOT, sydd wedi ei ffurfio o’r geiriau Saesneg hyn: yn dy helpu i weld pa syniadau mae hi’n werth eu datblygu ar gyfer y cam arloesi.
Acronym yw SWOT o’r geiriau Saesneg Strengths (cryfderau), Weaknesses (gwendidau), Opportunities (cyfleoedd) a Threats (bygythiadau).
- Cryfderau – nodweddion sy’n rhoi mantais.
- Gwendidau – nodweddion sy’n anfantais o gymharu â rhai eraill.
- Cyfleoedd – nodweddion mae hi’n bosibl cymryd mantais ohonynt.
- Bygythiadau – nodweddion a allai achosi problemau.
Mae’n bosibl nodi cryfderau a gwendidau ar gyfer syniad, proses, cynnyrch, gwasanaeth, person neu fusnes.
Mae cyfleoedd a bygythiadau yn ffactorau allanol a allai effeithio ar yr elfennau hyn.