Bachgen yn y Môr gan Morris GleitzmanY cymeriadau

Mae Jamal a'i deulu yn dianc o Afghanistan ac yn ffoi i ben draw'r byd. Mae stori Bachgen yn y Môr yn cael ei dweud yn y person cyntaf ac mae'r iaith ynddi'n creu cyffro, tensiwn ac awyrgylch.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Y cymeriadau

Jamal

Prif gymeriad y nofel. Breuddwyd Jamal ydy bod yn seren bêl-droed enwog. Mae’n gymeriad ffyddlon, penderfynol a dewr.

Bibi

Mae Bibi yn chwaer fach i Jamal. Mae’n gymeriad penderfynol ac annibynnol. Mae hi’n hoffi chwarae pêl-droed ac nid ydy’n gweld pam y dylai ddilyn rheolau’r Llywodraeth.

Tad Jamal

Pobydd a dyn tacsi ydy tad y plant. Mae’n gymeriad teg a dewr iawn (mae’n llwyddo i achub ei wraig o’r stadiwm).

Mam Jamal

Hi ydy’r athrawes yn yr ysgol anghyfreithlon. Rydyn ni’n gallu gweld ei bod hi’n ddewr wrth iddi wynebu marwolaeth yn y stadiwm.

Yusuf

Mae Yusuf yn ffrind ffyddlon i Jamal a Bibi. Mae Yusuf wedi dioddef yn fawr oherwydd y rhyfel - mae wedi colli ei goes a’i rieni.

Tad-cu Yusuf

Mae Yusuf yn byw gyda’i dad-cu. Mae wrth ei fodd yn gwylio gemau pêl-droed a’r Simpsons ar ei deledu lloeren anghyfreithlon yn y seler.

Omar

Omar sydd yn dwyn pêl Jamal yn y gwersyll. Mae Omar yn gymeriad eithaf negyddol ac yn tueddu i edrych ar ochr dywyll pob sefyllfa. Roedd wedi twyllo ei ffordd ar y llong er mwyn ceisio dianc i Awstralia.

Rashida

Mae Jamal yn hoffi Rashida yn fawr. Mae hi’n berson hael ac mae hi’n rhannu ei bwyd gyda’r tri phlentyn ac yn rhoi ei horiawr werthfawr i dalu’r smyglwyr.

Andrew

Andrew sydd yn achub y plant oddi ar y llong ffoaduriaid wrth iddi suddo. Mae Andrew yn teimlo’n euog achos dydy Awstralia ddim yn croesawu’r ffoaduriaid.

Ymarfer

Mae'n bwysig defnyddio ansoddeiriau wrth ddisgrifio cymeriadau. Meddylia am dri ansoddair ar gyfer pob cymeriad a noda reswm pam fod pob un yn addas. Dyma enghraifft:

Cymeriad: Jamal

Ansoddair 1: Dewr

Rheswm: Sefyll o flaen tanc yn yr anialwch er mwyn cael ei bêl yn ôl.

Ansoddair 2:

Rheswm:

Ansoddair 3:

Rheswm: