Bachgen yn y Môr gan Morris GleitzmanCefndir y nofel

Mae Jamal a'i deulu yn dianc o Afghanistan ac yn ffoi i ben draw'r byd. Mae stori Bachgen yn y Môr yn cael ei dweud yn y person cyntaf ac mae'r iaith ynddi'n creu cyffro, tensiwn ac awyrgylch.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Cefndir y nofel

Mae’r nofel hon wedi cael ei gosod yn Afghanistan a’r prif gymeriadau ydy Jamal a Bibi, brawd a chwaer sy’n byw yn y wlad. Mae bywyd yn Afghanistan yn wahanol iawn i fywyd yng Nghymru.

Rhaid bod Bibi wedi anghofio nad yw merched yn cael gadael y tŷ heb riant. Rhaid ei bod hi wedi anghofio bod yn rhaid i ferched guddio eu hwynebau bob amser pan fyddan nhw allan o’r tŷ. A rhaid ei bod hi wedi anghofio ei bod hi’n hollol anghyfreithlon i ferched chwarae pêl-droed.

Mae ymladd a lladd yn rhan o fywyd bob dydd i Jamal a Bibi ac maen nhw’n chwarae o gwmpas yr arfau oedd wedi cael eu gadael ar ôl.

Dw i’n gwenu, mynd heibio iddo, llywio’r bêl o gwmpas gard olwyn hen gerbyd milwyr, a gweld ’mod i o flaen y gôl.

Ymladd

Bu pobl yn Afghanistan yn ymladd yn erbyn milwyr yr Undeb Sofietaidd oedd yn y wlad am 10 mlynedd. Ar ôl iddyn nhw adael, gwnaeth y Taliban oresgyn y brifddinas a rheoli’r wlad. Yn dilyn ymosodiad 9/11 ar Ganolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd roedd Prydain ac America wedi penderfynu mynd i ryfel yn erbyn Afghanistan. Does dim rhyfedd nad ydy Jamal yn sicr pwy ydy’r gelyn wrth iddo ddod ar draws tanc ym mhennod 2:

… rhai America neu Rwsia neu Brydain neu Iran. Nid bod llawer o wahaniaeth. Alla i ddim cofio pwy sydd ar ein hochr ni eleni beth bynnag.

Y Llywodraeth

Llywodraeth y Taliban ydy’r ‘llywodraeth’ sy’n achosi cymaint o ofn i Jamal yn y nofel. Newidiodd bywyd pobl Afghanistan yn llwyr dan lywodraeth y Taliban. Dyma rai o'u rheolau llym:

  • nid oedd merched yn cael mynd i’r ysgol
  • nid oedd merched yn cael bod allan o’r tŷ heb aelod gwrywaidd o’r teulu
  • nid oedd pobl yn cael gwrando ar gerddoriaeth na gwylio’r teledu

Roedd pobl yn cael eu cosbi’n llym am dorri’r rheolau. Byddai rhai hyd yn oed yn cael eu lladd. Yn y nofel, mae mam Jamal a Bibi yn agos iawn at gael ei dienyddio yn y stadiwm bêl-droed yn Kabul:

Ar ben arall y maes mae’r milwyr yn gwneud i’r menywod eraill benlinio hefyd. Maen nhw’n anelu drylliau at gefnau eu pennau nhw hefyd. Yn barod i saethu.

Dianc

Penderfynodd miloedd o drigolion Afghanistan ddianc o’r wlad. Y cam cyntaf oedd mynd i fyw i wersylloedd enfawr ym Mhacistan ac Iran cyn ceisio dianc ymhellach. Ond, roedd hi’n amhosibl i lawer adael y gwersylloedd hyn.

Roedd eraill yn fwy penderfynol o adael. Roedden nhw’n talu arian mawr i smyglwyr oedd yn addo bywyd gwell mewn gwlad bell. Roedd llawer yn teithio am filoedd o filltiroedd o dan amodau ofnadwy. Yn aml, wedi cyrraedd y wlad newydd, doedd dim croeso iddyn nhw. Hanes un o’r teithiau hyn sydd yn y nofel hon.