Trosi o ffracsiynau i ganrannau
Trosa ffracsiwn i ffracsiwn ag enwadur o 100
Gelli di drosi o ffracsiynau i ganrannau drwy eu hysgrifennu’n gyntaf ag enwadur o \({100}\).
Mae \(\frac{6}{10}\) yn gywerth â \(\frac{60}{100}\), felly \(\frac{6}{10} = {60}\%\).
Mae \(\frac{1}{4}\) yn gywerth â \(\frac{25}{100}\), felly \(\frac{1}{4}= {25}\%\).
Question
Ysgrifenna \(\frac{3}{5}\) fel canran.
\(\frac{3}{5} = \frac{60}{100} = {60}\%\) (Lluosi’r rhifau top a gwaelod â \({20}\).)
Trosa o ffracsiwn i rif degol, wedyn lluosa â 100
\(\frac{3}{8} = {3}\div{8} = {0.375}\)
\({0.375}\times{100}\% = {37.5}\%,\) felly \(\frac{3}{8} = {37.5}\%\)
Question
Ysgrifenna \(\frac{5}{8}\) fel canran.
\(\frac{5}{8} = {0.625}\)
\({0.625}\times{100}\% = {62.5}\%\)