Trosi o ddegolion i ganrannau
I drosi o ddegolion i ganrannau lluosa â \({100}\).
Question
Ysgrifenna \({0.35}\) fel canran.
\({0.35}\times{100}\% = {35}\%\)
(Ystyr \({0.35}\) ydy \(\frac{35}{100},\) felly \({0.35} = {35}\%)\)
Yn yr un modd, mae \({0.2}\) yn mynd yn \({0.2}\times{100}\% = {20}\%\), ac mae \({0.375}\) yn mynd yn \({0.375}\times{100}\% = {37.5}\%\).
Question
Ysgrifenna’r degolion canlynol fel canrannau:
a) \({0.34}\)
b) \({0.005}\)
a) \({34}\%\)
b) \({0.5}\%\)
Os na chefaist ti’r atebion cywir, cofia fod lluosi â \({100}\) yn symud pob digid ddau le i’r chwith.