Lluosi byr
I luosi \({237}\) â \({4}\) heb ddefnyddio cyfrifiannell, gelli di ei osod allan fel hyn:
- Dechreua gyda \({4}\times{7}\), sef \({28}\), felly ysgrifenna’r \({8}\) a chario’r \({2}\) i golofn y degau.
- \({4}\times{3} = {12}\), ond cofia adio’r \({2}\) a gariwyd i gael \({14}\). Ysgrifenna’r \({4}\) a chario’r \({1}\) i golofn y cannoedd.
- \({4}\times{2} = {8}\), ac adio’r \({1}\) a gariwyd i gael \({9}\).
Felly \({237}\times{4} = {948}\).
Lluosi byr ydy’r enw ar y dull hwn.
Defnyddio grid lluosi
Mae gosod y rhifau mewn grid yn hwyluso’r cyfrifo. Yn y grid hwn dangoswn \({7}\times{4}\) fel:
Mae hyn yn arwain at grid cyflawn fel hyn:
Mae’r rhifau porffor ar waelod y tabl yn dod trwy adio’r rhifau ar y groeslin.
Rydyn ni’n gweld felly mai ateb \({237}\times{4} = {948}\).