Rhannu byr
I rannu rhif mawr â rhif un digid, gelli di ei osod fel hyn:
Mae \({964}\) wedi ei rannu â \({7}\) yn gwneud \({137}\) gyda \({5}\) yn weddill.
- Mae \({7}\) yn mynd i mewn i \({9}\) unwaith gyda \({2}\) yn weddill, felly rho \({1}\) uwchben y \({9}\) a chario’r \({2}\) i golofn y degau.
- Mae \({7}\) yn mynd i mewn i \({26}\) dair gwaith, gyda \({5}\) yn weddill, felly rho \({3}\) uwchben y \({6}\) a chario’r \({5}\) i golofn y cannoedd.
- Mae \({7}\) yn mynd i mewn i \({54}\) saith gwaith, gyda \({5}\) yn weddill, felly rho \({7}\) uwchben y \({4}\) a gadael \({5}\) yn weddill.
Felly \({964}\div{7} = {137}~gweddill~{5}\).
Rydyn ni’n ysgrifennu hyn gyda \({g}\) am ‘gweddill’, felly mae’n edrych fel hyn:
\({964}\div{7} = {137}~{g}~{5}\)
Rhannu byr ydy’r enw ar y dull hwn.