Trefn gweithreduY rheol CIRhLlAT

Wrth weithio sym ag iddi fwy nag un weithred, ee 8 + 2 × 3, dilyna reol CIRhLlAT. Heb y rheol hon gallet ti gael gwahanol atebion, felly mae’n bwysig cael trefn y gweithredu’n gywir.

Part ofMathemategGweithrediadau (cyfrifiadau a symiau)

Y rheol CIRhLlAT

Mae trefn wedi ei chytuno ar gyfer gweithredu mewn Mathemateg, sef CIRhLlAT.

Mae'r termau hyn i gyd yn weddol amlwg heblaw am 'Indecsau' sy'n golygu'n syml, pwerau, ee \({2}^{3}\) neu \({4}^{2}\) ayyb.

Felly dyma'r drefn y dylet ti ei dilyn wrth wneud dy gyfrifiadau:

  • Cromfachau
  • Indecsau
  • Rhannu a Lluosi. Dechreua ar y chwith a gwna nhw yn y drefn rwyt ti'n dod atyn nhw.
  • Adio a Thynnu. Pan fydd dim ond adio a thynnu ar ôl i'w wneud yn y sym, gwna hynny yn y drefn rwyt ti'n dod atyn nhw, gan ddechrau o ochr chwith y sym a gweithio i'r dde.

Enghraifft 1

Beth ydy \({4} + {2}\times{3}\)?

Os wyt ti’n cyfrifo’r rhan \({4} + {2}\) gyntaf rwyt ti’n cael:

\({4} + {2}\times{3} = {6}\times{3} = {18}\)

Os wyt ti’n cyfrifo’r rhan \({2}\times{3}\) gyntaf rwyt ti’n cael:

\({4} + {2}\times{3} = {4} + {6} = {10}\)

Dyma ddau ateb gwahanol iawn, ond dim ond un sy’n gywir.

Yn CIRhLlAT, mae lluosi’n dod o flaen adio, felly lluosa \({2}\) â \({3}\) yn gyntaf.

\({4} + {2}\times{3} = {4} + {6} = {10}\), felly dyma’r ateb cywir.

Enghraifft 2

Beth ydy \({9} - {4} + {3}\)?

Dim ond adio a thynnu sydd yn y sym hon. Felly cyfrifa nhw o’r chwith i’r dde.

\({9} - {4} + {3} = {5} + {3} = {8}\)