Ymarfer defnyddio'r rheol CIRhLlAT
Ceisia ateb y cwestiynau hyn.
Question
Beth ydy gwerth y canlynol?
a) \({4}\times{5} - {3}\times{2}\)
b) \(({2} + {3})\times({5} - {1})\)
c) \({2} + {6}\div{2}\)
ch) \({8} - ({6} - {1})\)
d) \({3}\times({4} + {2})\)
a) Yn CIRhLlAT mae lluosi’n dod o flaen tynnu, felly gwna’r gwaith lluosi’n gyntaf ac wedyn y gwaith tynnu: \({4}\times{5} - {3}\times{2} = {20} - {6} = {14}\)
b) \({20}\). Dyma’r dull gweithio: \(({2} + {3})\times({5} - {1}) = {5}\times{4} = {20}\)
c) Yn CIRhLlAT mae rhannu’n dod o flaen adio, felly: \({2} + {6}\div{2} = {2} + {3} = {5}\)
ch) Cromfachau sy’n dod gyntaf, felly: \({8} - ({6} - {1}) = {8} - {5} = {3}\)
d) Yn ôl CIRhLlAT mae cromfachau’n dod o flaen lluosi, felly gwna’r gwaith yn y cromfachau’n gyntaf: \({3}\times({4} + {2}) = {3}\times{6} = {18}\)