Trosi ffracsiynau, degolion a chanrannauTrosi ffracsiynau a degolion

Gall ffracsiynau, degolion a chanrannau i gyd fod â’r un gwerthoedd ac fe allai fod yn ddefnyddiol i ti wybod sut i drosi rhyngddyn nhw.

Part ofMathemategGweithrediadau (cyfrifiadau a symiau)

Trosi ffracsiynau a degolion

Trosi o ddegolion i ffracsiynau

Ystyr \({0.38}\) ydy \({38}\) canfed, felly \({0.38} = \frac{38}{100} = \frac{19}{50}\)

Yn yr un modd, \({0.4} = \frac{4}{10} = \frac{2}{5}\), a \({0.125} = \frac{125}{1000} = \frac{1}{8}\)

Question

Ysgrifenna \({0.7}\) fel ffracsiwn yn ei ffurf symlaf.

Trosi o ffracsiynau i ddegolion

Ystyr \(\frac{3}{10}\) ydy tri degfed, felly ysgrifenna hyn fel \({0.3}\).

Ystyr \(\frac{17}{100}\) ydy un deg saith canfed, felly ysgrifenna hyn fel \({0.17}\).

Question

Ysgrifenna \(\frac{9}{100}\) fel rhif degol.

Defnyddio cyfrifiannell

Pan nad ydy’r rhif gwaelod yn lluosrif i \({10}\), gelli di drosi ffracsiwn yn rhif degol drwy rannu’r rhif top â’r rhif gwaelod. Efallai bydd angen i ti ddefnyddio cyfrifiannell.

Er enghraifft:

\(\frac{3}{4} = {3}\div{4} = {0.75}\)

\(\frac{16}{25} = {16}\div{25} = {0.64}\)

More guides on this topic