Catholigaeth yn oes ElisabethReciwsantiaeth Gatholig yng Nghymru

Er gwaetha’r ffaith i’r 'ffordd ganol' gael ei derbyn i ddechrau, cynyddodd y bygythiad Catholig o ddiwedd y 1560au. Yn y pen draw, arweiniodd hynny at ddienyddio Mari, Brenhines y Sgotiaid a rhyfel gyda Sbaen. Pam roedd y Catholigion yn fygythiad i Elisabeth?

Part ofHanesOes Elisabeth, 1558-1603

Reciwsantiaeth Gatholig yng Nghymru

Roedd Ardrefniant Crefyddol Oes Elisabeth wedi’i dderbyn gan fwyaf yng Nghymru, er gwaethaf traddodiad Catholig cryf y wlad. Fodd bynnag, roedd yn gyffredin yng Nghymru a chynyddodd y gwrthwynebiad i’r Ardrefniant wrth i deyrnasiad Elisabeth fynd yn ei flaen.

Gwrthwynebiad i Ardrefniant 'ffordd ganol' Elisabeth

Roedd Catholigion Cymreig yn gwrthwynebu Ardrefniant 'ffordd ganol' Elisabeth mewn sawl ffordd.

Roedd nifer o Gymry yn derbyn newidiadau Elisabeth a doedd dim tystiolaeth o gwbl o’r parodrwydd am wrthryfel Catholig yng Nghymru. Serch hynny, roedd rhai Catholigion Cymreig blaenllaw yn gwrthwynebu Elisabeth.

Gwrthwynebiad i'r Ardrefniant yng Nghymru: gadael y wlad, argraffu pamffledi, dirwy am beidio mynychu’r eglwys, hyfforddi offeiriaid tramor, dienyddio/merthyron, cynllwyniau Ridolfi a Babington.
  • Aeth nifer o offeiriaid Cymreig oedd yn anghytuno â’r newidiadau crefyddol o Gymru i’r Eidal.
  • Roedd dau Gymro, Owen Lewis a Morgan Philips, yn hyfforddi offeiriaid Catholig dramor mewn coleg diwinyddol yn Fflandrys.
  • Cyhoeddwyd llenyddiaeth Gatholig yn gudd yng Nghymru drwy ddefnyddio gweisg argraffu.
  • Talodd nifer o Gatholigion Cymreig y ddirwy reciwsantiaeth am beidio â mynychu gwasanaethau’r eglwys, fel Edward Morgan o Lantarnam a dalodd £7,760 yn ystod teyrnasiad Elisabeth.
  • Roedd rhai Catholigion Cymreig yn gysylltiedig â’r cynllwyniau yn erbyn Elisabeth, ee Hugh Davis o Blas Du oedd yn rhan o Gynllwyn Ridolfi yn 1571, a Thomas Salusbury ac Edward Jones yng Nghynllwyn Babington.
  • Cafodd Richard Gwyn, William Davies a John Jones eu dienyddio a daethant yn ferthyron Catholig.

Cafodd y gwrthwynebwyr mwyaf difrifol eu merthyru am eu gweithredoedd a’u credoau.

Richard Gwyn

Y Cymro Catholig mwyaf blaenllaw yng Nghymru oedd Richard Gwyn, a wrthododd y grefydd Brotestannaidd newydd a gweithredu fel dolen gyswllt rhwng yr offeiriaid Catholig a theuluoedd Catholig lleol. Cafodd ei ddilyn gan Brotestaniaid a’i arestio sawl gwaith.

Er bod yr awdurdodau yn ymddangos yn gyndyn i’w gondemnio, roedden nhw’n cael eu dylanwadu gan Biwritaniaid i’w roi o flaen ei well. Ar ôl wyth achos llys a chosb llym, dioddefodd , yn Wrecsam yn 1584.

Roedd Edward Jones yn enghraifft o rywun a fagwyd yn Brotestant ond trodd at y ffydd Gatholig, gan ddod yn offeiriad Catholig yn Reims, Ffrainc yn 1588. Teithiodd i Loegr yn yr un flwyddyn gyda’r bwriad o droi pobl at Gatholigiaeth, ond cafodd ei arestio gan ddaliwr offeiriaid yn Llundain. Ar ôl yr artaith, y cyfaddefiad a’r achos llys, cafodd ei grogi, ei ddiberfeddu a’i chwarteru gyferbyn â’r lle y cafodd ei ddal yn Fleet Street.

Cafodd John Jones ei fagu mewn teulu reciwsant Cymreig, gan deithio i Rufain a dod yn frawd Ffransisgaidd yn y pen draw. Er gwaethaf y peryglon a wynebai offeiriaid Catholig yng Nghymru a Lloegr, dychwelodd i gynnal Offeren i Gatholigion. Yn 1596, cafodd ei arestio gan y daliwr offeiriaid drwg-enwog Richard Topcliffe, ei arteithio a’i garcharu am ddwy flynedd bellach nes ei ddienyddiad erchyll yn 1598.

Roedd William Davies yn Gymro arall o ogledd Cymru a deithiodd i Ffrainc, gan astudio yn Reims a dod yn yn 1585. Dychwelodd i Gymru fel gweithredwr rhwng offeiriaid a theuluoedd Catholig yng ngogledd ddwyrain Cymru, gan gynhyrchu, yn y dirgel, un o’r llyfrau cyntaf erioed i’w hargraffu yng Nghymru, Y Drych Christianogawl / The Christian Mirror. Cafodd ei arestio a’i garcharu sawl gwaith, ac yn y pen draw, fe’i ddienyddiwyd yn 1593 ar ôl gwrthod rhoi’r gorau i’r ffydd Gatholig.

Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd dros 100 o offeiriaid eu condemnio i farwolaeth am frad. Fodd bynnag, er gwaethaf pryderon y llywodraeth, ni chafwyd gwrthryfel. Erbyn diwedd teyrnasiad Elisabeth, doedd y Catholigion ddim yn fygythiad difrifol i ddiogelwch y wlad.