Rhesymau pam anfonwyd yr Armada
Yn ystod y cyfnod hwn, Sbaen oedd y wlad fwyaf pwerus yn y byd. Datblygodd yn wlad gyfoethog iawn oherwydd ei choncwestau yn y Byd Newydd (Canolbarth America), ardal gafodd ei hadnabod fel y Môr Sbaenaidd.
Roedd y Sbaenwyr yn Gatholigion cryf, ac er bod gan Gymru a Lloegr berthynas dda gyda Sbaen ar ddechrau teyrnasiad Elisabeth, roedd sawl rheswm pam y gwaethygodd y berthynas honno, gan arwain at ryfel yn y pen draw.
Beth arweiniodd at ryfel?
| Materion | Eglurhad |
| Gwahaniaethau crefyddol | Roedd Sbaen yn wlad Gatholig a Lloegr yn wlad Brotestannaidd – sy’n golygu bod gan y ddau arweinydd safbwyntiau a theyrngarwch ysbrydol gwahanol. |
| Gwrthod Priodi | Roedd Brenin Philip II o Sbaen wedi bod yn briod â chwaer Elisabeth, Mari I. Pan fu farw Mari gofynnodd i Elisabeth ei briodi ond gwrthododd hi’r cynnig. |
| Môr-ladrata | Ymosododd morwyr o Loegr fel Hawkins a Drake ar longau Sbaen a dwyn trysorau oddi arnyn nhw'n y Byd Newydd. Roedd Brenin Philip yn gandryll ond roedd Elisabeth yn annog ac yn gwobrwyo anturiaethwyr. |
| Y rhyfel cartref yn Ffrainc | Ffrainc oedd gelyn traddodiadol Lloegr a Sbaen, a olygai eu bod yn uno gyda’i gilydd yn erbyn y wlad. Nawr bod Ffrainc mewn rhyfel cartref, roedd gan y wlad ei phroblemau ei hun i boeni amdanyn nhw, a ddim yn fygythiad mwyach – felly roedd y gynghrair rhwng Sbaen a Lloegr ddim yn angenrheidiol bellach. |
| Roedd Sbaen yn cefnogi’r cynllwyniau Catholig | Cafwyd tystiolaeth fod Sbaen yn cefnogi cynllwyniau i adfer Catholigiaeth i Loegr, yn enwedig drwy gael Mari, Brenhines y Sgotiaid ar yr orsedd a di-orseddu Elisabeth. |
| Gwrthryfel yr Iseldiroedd | Dechreuodd Protestaniaid yn yr Iseldiroedd wrthryfel yn erbyn rheolaeth Sbaen yn 1572. Yn dawel bach, roedd Elisabeth yn cefnogi gwrthryfelwyr yr Iseldiroedd oherwydd gwyddai hi y byddai gwrthryfel yr Iseldiroedd yn cadw’r Sbaenwyr yn rhy brysur i fygwth Lloegr. |
| Ymunodd byddin Elisabeth â gwrthryfelwyr yr Iseldiroedd | Yn 1585, anfonodd Elisabeth fyddin i helpu gwrthryfelwyr yr Iseldiroedd i ymladd yn erbyn Sbaen. Am y tro cyntaf, roedd byddinoedd Lloegr a Sbaen yn ymladd â’i gilydd. Roedd Lloegr a Sbaen bellach mewn rhyfel. |
| Materion | Gwahaniaethau crefyddol |
|---|---|
| Eglurhad | Roedd Sbaen yn wlad Gatholig a Lloegr yn wlad Brotestannaidd – sy’n golygu bod gan y ddau arweinydd safbwyntiau a theyrngarwch ysbrydol gwahanol. |
| Materion | Gwrthod Priodi |
|---|---|
| Eglurhad | Roedd Brenin Philip II o Sbaen wedi bod yn briod â chwaer Elisabeth, Mari I. Pan fu farw Mari gofynnodd i Elisabeth ei briodi ond gwrthododd hi’r cynnig. |
| Materion | Môr-ladrata |
|---|---|
| Eglurhad | Ymosododd morwyr o Loegr fel Hawkins a Drake ar longau Sbaen a dwyn trysorau oddi arnyn nhw'n y Byd Newydd. Roedd Brenin Philip yn gandryll ond roedd Elisabeth yn annog ac yn gwobrwyo anturiaethwyr. |
| Materion | Y rhyfel cartref yn Ffrainc |
|---|---|
| Eglurhad | Ffrainc oedd gelyn traddodiadol Lloegr a Sbaen, a olygai eu bod yn uno gyda’i gilydd yn erbyn y wlad. Nawr bod Ffrainc mewn rhyfel cartref, roedd gan y wlad ei phroblemau ei hun i boeni amdanyn nhw, a ddim yn fygythiad mwyach – felly roedd y gynghrair rhwng Sbaen a Lloegr ddim yn angenrheidiol bellach. |
| Materion | Roedd Sbaen yn cefnogi’r cynllwyniau Catholig |
|---|---|
| Eglurhad | Cafwyd tystiolaeth fod Sbaen yn cefnogi cynllwyniau i adfer Catholigiaeth i Loegr, yn enwedig drwy gael Mari, Brenhines y Sgotiaid ar yr orsedd a di-orseddu Elisabeth. |
| Materion | Gwrthryfel yr Iseldiroedd |
|---|---|
| Eglurhad | Dechreuodd Protestaniaid yn yr Iseldiroedd wrthryfel yn erbyn rheolaeth Sbaen yn 1572. Yn dawel bach, roedd Elisabeth yn cefnogi gwrthryfelwyr yr Iseldiroedd oherwydd gwyddai hi y byddai gwrthryfel yr Iseldiroedd yn cadw’r Sbaenwyr yn rhy brysur i fygwth Lloegr. |
| Materion | Ymunodd byddin Elisabeth â gwrthryfelwyr yr Iseldiroedd |
|---|---|
| Eglurhad | Yn 1585, anfonodd Elisabeth fyddin i helpu gwrthryfelwyr yr Iseldiroedd i ymladd yn erbyn Sbaen. Am y tro cyntaf, roedd byddinoedd Lloegr a Sbaen yn ymladd â’i gilydd. Roedd Lloegr a Sbaen bellach mewn rhyfel. |
Pwysigrwydd yr Iseldiroedd
Yn ystod y cyfnod hwn, roedd yr Iseldiroedd yn cael ei reoli gan Sbaen, ond roedd hefyd yn ardal oedd yn ddaearyddol agos ac hanfodol i fasnach Lloegr, yn enwedig gwlân a brethyn.
Erbyn 1572, roedd syniadau Protestannaidd wedi ymledu yn yr Iseldiroedd a dechreuodd gwrthryfelwyr yr Iseldiroedd ymgyrch am annibyniaeth oddi wrth Sbaen Gatholig, gan arwain at Wrthryfel yr Iseldiroedd.
Roedd Brenin Philip II o Sbaen yn benderfynol o sathru ar y gwrthryfel. Anfonodd fyddin o dan Dug Alva i orchfygu’r gwrthryfelwyr, oedd yn cael eu harwain gan William, Tywysog yr Orenwyr.
Fodd bynnag, ar ôl llofruddiaeth William yn 1584, cafodd Elisabeth ei pherswadio i helpu’r gwrthryfelwyr Protestannaidd ac anfonwyd byddin o 7,600 o ddynion i’r wlad. Roedd hynny gyfystyr â datgan rhyfel gyda Sbaen.
Arweiniodd hynny, yn ogystal â chyfuniad o ffactorau eraill fel môr-ladrata ymhlith y Saeson, at Philip yn penderfynu gorchfygu Lloegr o’r diwedd, drwy gyfrwng Armada Sbaen.
Cafodd cynlluniau Philip i orchfygu Lloegr eu paratoi’n gyflym, ond unwaith clywodd y Saeson amdanyn nhw, hwyliodd Syr Francis Drake tuag at Cadiz yn Sbaen ym mis Mai 1587.
Distrywiodd yr holl longau yn yr harbwr a helpodd hynny i arafu’r Armada rhag gadael. Hefyd, distrywiodd y cyflenwadau o bren, gan adael Sbaen heb fawr ddim pren i ail-adeiladu ei llynges. Yn y diwedd, hwyliodd llynges Sbaen ym mis Gorffennaf 1588.