Yn 1558, roedd Cymru, Lloegr a Sbaen yn gyfeillion. Fodd bynnag, dirywiodd y berthynas yn ystod y 30 mlynedd nesaf, gan arwain at ymgais gan y Sbaenwyr i orchfygu Lloegr. Faint o fygythiad oedd Armada Sbaen?
Mae haneswyr wedi dadlau a oedd trechu’r Armada yn fuddugoliaeth fawr i’r Saeson. Mewn sawl ffordd, doedd hynny ddim yn wir, gan mai un llong Sbaen yn unig a suddodd drwy danio, gyda’r tywydd yn chwarae rhan hollbwysig yn y dinistr.
Hefyd, daeth y rhyfeloedd gyda Sbaen ddim i ben mewn gwirionedd tan ddiwedd 1604, ar ôl marwolaeth Elisabeth, ac roedd y gost yn anferthol – tua £1.5 miliwn ar y pryd. Ddwywaith yn rhagor, hwyliodd Armada tua Lloegr, ond bob tro, gorfododd y stormydd i’r llongau droi am adref.
Buddugoliaeth fawr
Serch hynny, hawliodd y Saeson fuddugoliaeth fawr ers i’r ymosodiad gael ei rwystro. Yn bwysicach, byddai pobl ar draws Ewrop wedi gweld y digwyddiad hwn fel un cywilyddus i Sbaen.
Does dim dwywaith bod enw da Lloegr fel pŵer y moroedd wedi gwella, ac wrth gwrs, enw da Elisabeth fel arweinydd cryf.