Dychwelyd i Sbaen
Ar ôl cael eu curo ym Mrwydr Gravelines, gorchmynnodd Medina Sidonia i’r llynges ddychwelyd i Sbaen. Gorfododd y cerrynt, y gwyntoedd a phresenoldeb y Saeson yn y Sianel, y Sbaenwyr i hwylio i’r gogledd o amgylch arfordiroedd yr Alban ac Iwerddon, lle distrywiodd y moroedd tymhestlog a’r creigiau bron i hanner y llynges.
Cafodd dros 20,000 o Sbaenwyr eu lladd a chafodd nifer eu carcharu. Cododd gywilydd ar Sbaen a chyrhaeddodd mawreddStatws neu enw da. Elisabeth ei lefel uchaf.
Crynodeb
- Mae’r Armada yn gadael Lisbon ar 28 Mai 1588. Mae’n gadael yn hwyr oherwydd stormydd a gwaith atgyweirio, ac mae’n hwylio o’r diwedd i Loegr ar 21 Gorffennaf.
- Mae’r Armada yn cael ei weld gan y Saeson o Lizard Point yng Nghernyw. Mae ffaglau yn cael eu cynnau ar hyd arfordir Lloegr fel rhybudd.
- Mae’r Armada yn parhau drwy’r Sianel ac mae’n cael ei dilyn gan longau’r Saeson, ond nid yw’n cael ei ddifrodi rhyw lawer.
- Mae’r Armada yn bwrw angor ger Calais lle mae disgwyl i fwy o filwyr ymuno, dan arweiniad Dug Parma, ond mae’r Saeson yn anfon llongau tân sydd ar dân i mewn i’r llynges. Mae llongau Sbaen yn cynhyrfu ac wedi’u gwasgaru y tu allan i’w ffurfiant arferol.
- Mae llongau Sbaen yn cael eu chwythu tuag at fanciau tywod peryglus ac mae’r Saeson yn ymosod unwaith eto ym Mrwydr Gravelines. Y tro yma, maen nhw’n brwydro o bellter agos ac mae llynges Sbaen yn cael ei difrodi’n sylweddol.
- Mae’r Armada yn cael ei gorfodi tua’r gogledd o amgylch arfordir dwyrain Lloegr, ac mae llynges y Saeson yn troi nôl ar ôl i gyflenwadau bwyd a ffrwydron brinhau.
- Mae’r Armada yn hwylio am gartref ond mae’n cael ei gorfodi i fynd o amgylch yr Alban ac Iwerddon. Mae nifer o longau yn cael eu dryllio mewn stormydd ac mae miloedd o forwyr yn boddi.
- Mae cychod Sbaen sy’n goroesi yn cyrraedd nôl yn Sbaen, ond mae bron i hanner eu llynges ar goll.
- Mae’r Saeson yn dathlu buddugoliaeth fawr dros archbŵer Ewrop, Sbaen.
Colledion y frwydr
Wynebodd y ddwy ochr golledion ond roedd colledion y Saeson yn gymharol fach o’i gymharu â’r Sbaenwyr. Collodd y Saeson 100 o ddynion o’i gymharu â 20,000 o ddynion a 51 o longau’r Sbaenwyr.
Serch hynny, er gwaethaf buddugoliaeth Lloegr, roedd miloedd o forwyr a milwyr Lloegr yn newynu, gan farw o salwch a chlefydau yn yr wythnosau’n dilyn y frwydr.