Sut cafodd yr Armada ei threchu?
Lwc wael, tactegau gwael a thywydd gwael wnaeth drechu Armada Sbaen
Roedd tywydd gwael yn sicr yn un ffactor a gyfrannodd at drechu’r Sbaenwyr, ond roedd ffactorau eraill hefyd.
| Ffactor | Manylion |
| Arweinwyr | Dug Medina Sidonia arweiniodd llynges Sbaen, ond roedd yn ddi-brofiad mewn brwydrau morwrol a gwnaeth rai camgymeriadau marwol gyda’i gynlluniau a’i dactegau. |
| Cynllunio | Daeth cryfder llynges Sbaen o’i ffurfiant siâp cilgant – ond pan dorrodd y Saeson y patrwm hwn gyda’u llongau tân, roedd y Sbaenwyr yn fwy bregus ac yn fwy agored ar gyfer ymosodiad. |
| Dim milwyr wrth gefn | Roedd cynllun y Sbaenwyr yn dibynnu ar stopio i gasglu byddin Dug Parma i roi hwb i’w niferoedd, ond doedd y llynges ddim yn gallu bwrw angor, felly ni chasglwyd y milwyr wrth gefn. |
| Tactegau | Tactegau’r Sbaenwyr oedd mynd yn ddigon agos i longau Lloegr er mwyn gallu mynd arnyn nhw, ond tacteg y Saeson oedd ymosod o bellter diogel. |
| Llongau | Roedd llongau Sbaen yn arafach ac yn llai addas ar gyfer tywydd gwael na llongau Lloegr. |
| Arfau | Roedd gan longau Lloegr ganon y gallent ei danio o bellter diogel a’i ail-lwytho’n hawdd. Roedd cynllun canon y Sbaenwyr yn golygu mai tanio pellteroedd byr yn unig y gallent ei wneud, ac roedd yn araf i’w ail-lenwi. |
| Y Tywydd | Roedd prinder porthladd diogel lle gallai’r Sbaenwyr lochesu yn golygu bod llongau Sbaen yn cael eu hysgwyd gan y gwynt. Y gred oedd bod Duw wedi ymyrryd a bod y tywydd gwyntog yn arwydd bod Duw ar ochr Elisabeth. |
| Ffactor | Arweinwyr |
|---|---|
| Manylion | Dug Medina Sidonia arweiniodd llynges Sbaen, ond roedd yn ddi-brofiad mewn brwydrau morwrol a gwnaeth rai camgymeriadau marwol gyda’i gynlluniau a’i dactegau. |
| Ffactor | Cynllunio |
|---|---|
| Manylion | Daeth cryfder llynges Sbaen o’i ffurfiant siâp cilgant – ond pan dorrodd y Saeson y patrwm hwn gyda’u llongau tân, roedd y Sbaenwyr yn fwy bregus ac yn fwy agored ar gyfer ymosodiad. |
| Ffactor | Dim milwyr wrth gefn |
|---|---|
| Manylion | Roedd cynllun y Sbaenwyr yn dibynnu ar stopio i gasglu byddin Dug Parma i roi hwb i’w niferoedd, ond doedd y llynges ddim yn gallu bwrw angor, felly ni chasglwyd y milwyr wrth gefn. |
| Ffactor | Tactegau |
|---|---|
| Manylion | Tactegau’r Sbaenwyr oedd mynd yn ddigon agos i longau Lloegr er mwyn gallu mynd arnyn nhw, ond tacteg y Saeson oedd ymosod o bellter diogel. |
| Ffactor | Llongau |
|---|---|
| Manylion | Roedd llongau Sbaen yn arafach ac yn llai addas ar gyfer tywydd gwael na llongau Lloegr. |
| Ffactor | Arfau |
|---|---|
| Manylion | Roedd gan longau Lloegr ganon y gallent ei danio o bellter diogel a’i ail-lwytho’n hawdd. Roedd cynllun canon y Sbaenwyr yn golygu mai tanio pellteroedd byr yn unig y gallent ei wneud, ac roedd yn araf i’w ail-lenwi. |
| Ffactor | Y Tywydd |
|---|---|
| Manylion | Roedd prinder porthladd diogel lle gallai’r Sbaenwyr lochesu yn golygu bod llongau Sbaen yn cael eu hysgwyd gan y gwynt. Y gred oedd bod Duw wedi ymyrryd a bod y tywydd gwyntog yn arwydd bod Duw ar ochr Elisabeth. |