Gwrthryfel Ieirll y Gogledd 1569
Yn ystod y cyfnod hwn roedd Ieirll y Gogledd yn bwerus iawn. Pan ddaeth Elisabeth i’r orsedd, ceisiodd gyfyngu eu pŵer drwy roi arglwyddi’r de yng ngofal rhywfaint o’u tiroedd. Roedd Ieirll y Gogledd hefyd yn Gatholigion cryf ac roedden nhw wedi’u siomi gydag Elisabeth yn ymyrryd yn eu busnes o Lundain bell. Roedd y ffactorau hyn, a dyfodiad Mari, Brenhines y Sgotiaid yn 1568, wedi’u gwthio i ddibyn gwrthryfel.
Yn 1569, dechreuodd Charles Neville, 6ed Iarll Westmoreland a Thomas Percy, 7fed Iarll Northumberland, gasglu eu lluoedd. Ym mis Tachwedd, gorymdeithiodd 4,500 o ddynion i ddinas gaerog Durham, ymosodwyd ar yr Eglwys Gadeiriol a distrywiwyd y Beibl Saesneg a’r bwrdd cymun Protestannaidd. Yna cafwyd Offeren Gatholig i ddathlu, gweithred anghyfreithlon yng Nghymru a Lloegr.
Serch hynny, doedd dim cynllun trefnus gyda nhw ond roedd ymateb Elisabeth i’r gwrthryfel yn gyflym. Enciliodd y rhan fwyaf o’r gwrthryfelwyr cyn gynted ag y clywsant bod gan Iarll Sussex miloedd o filwyr yn gorymdeithio tua’r gogledd. Cafodd carcharorion eu cosbi’n llym gyda dros 800 o gwrthryfelwyrY rhai sy'n cymryd rhan mewn gwrthryfel - gwrthwynebiad wedi’i drefnu yn erbyn llywodraeth neu awdurdod. yn cael eu dienyddio fel rhybudd i wrthwynebwyr posib eraill.
Dihangodd yr Ieirll i’r Alban ac er i Westmoreland lwyddo i osgoi cael ei ddal, drwy ddianc i Fflandrys, cafodd Northumberland ei ddal, a’i roi yn ôl i’r Saeson yn 1572 a’i ddienyddio. Cafodd tiroedd gwrthwynebwyr, a thiroedd teuluoedd Catholig eraill, eu gwahardd a thorrwyd pŵer Ieirll y Gogledd.