Rôl Mari, Brenhines y Sgotiaid
Bywyd cynnar Mari

Heb os, roedd y bygythiad Catholig yn ymwneud â chyfnither Elisabeth, Mari, Brenhines y Sgotiaid. Daeth hi’n Frenhines yr Alban pan laddwyd ei thad Iago V, mewn brwydr yn erbyn y Saeson yn 1542.
Yn 1561, bu farw gŵr cyntaf Mari, Ffransis II o Ffrainc, felly dychwelodd i’r Alban. Priododd Henry Stuart, Arglwydd Darnley, ond priodas anhapus oedd hi. Roedd Darnley yn feddwyn oedd yn gysylltiedig â llofruddiaeth ysgrifennydd Mari, David Rizzio.
Yn 1567, cafodd Darnley ei lofruddio a chafodd Mari ei hamau. Arweiniodd hynny at ei diorseddu yn y pen draw a’u halltudio o’r Alban, er mwyn ei mab bach, James.
Prif ddigwyddiadau bywyd Mari, Brenhines y Sgotiaid
Dyfodiad Mari yn Lloegr
Roedd dyfodiad Mari yn Lloegr yn broblem fawr i Elisabeth. Yn bennaf oherwydd y gallai hawlio’r goron, oherwydd roedd rhai Catholigion yn gweld Elisabeth fel plentyn anghyfreithlon, yn sgil ail briodas Harri.
Pan gyrhaeddodd Mari yn Lloegr yn chwilio am loches yn 1568, doedd dim un o opsiynau Elisabeth yn ganlyniad ffafriol iawn.
- Cael gwared ar Mari o’r wlad - gallai anfon Mari nôl i’r Alban neu Ffrainc arwain at wrthwynebiad, gan alluogi iddi gael mwy o gefnogaeth i herio Elisabeth.
- Cadw Mari dan glo – byddai hyn yn lleihau’r risg o Mari yn cael mwy o gefnogaeth nôl yn yr Alban neu Ffrainc, a chaniatáu i Elisabeth gadw rheolaeth dynn ar bethau. Ond gallai carcharu Mari yn anghyfreithlon sbarduno protestiadau ac ymosodiadau rhyngwladol.
- Dienyddio Mari – er y byddai hyn yn cael gwared ar yr arweinydd i’r gwrthwynebwyr CatholigYr Eglwys yng Ngorllewin Ewrop cyn y Diwygiad Protestannaidd. Y Pab oedd pennaeth yr Eglwys. Aelod o’r Eglwys Gatholig Rufeinig., gallai hefyd sbarduno ymosodiadau rhyngwladol a gosod cynsail i ladd brenhines.
Yn y diwedd, penderfynodd Elisabeth i adael Mari i aros yn Lloegr, ond fel carcharor brenhinol ‘mewn caethiwed anrhydeddus’. Cafodd ei chadw’n y ddalfa ond ei thrin gyda pharch fel petai hi'n frenhines.
Cynllwynio Catholig yn erbyn Elisabeth
Fel y disgrifiwyd yn barod, daeth Mari yn ganolbwynt, yn fwriadol neu beidio, i’r cynllwynio Catholig yn erbyn Elisabeth. Ei chysylltiad pendant â Chynllwyn Babington 1586 wnaeth arwain at ei chwymp.
Roedd y dystiolaeth a ddarparwyd gan Walsingham bellach yn ddigon i ddedfrydu Mari o gynllwynio i ladd Elisabeth. Yn yr achos llys, amddiffynnodd Mari ei hun yn gadarn, tra’n gwrthod derbyn awdurdod y llys. Serch hynny, yn groes i’r graen, cytunodd Elisabeth i arwyddo gwarant i’w dienyddio a lladdwyd Mari ym mis Chwefror 1587.
Pan glywodd Elisabeth am ei marwolaeth, roedd yn ofidus iawn, a charcharwyd William Davison, Ysgrifennydd Gwladol iau am gamddeall ei gorchmynion. Serch hynny, doedd dim dwywaith bod bygythiad mawr i Elisabeth wedi’i ddileu.
Goblygiadau dienyddio Mari
Yn rhyfeddol, doedd goblygiadau dienyddio Mari ddim mor ddifrifol ag yr oedd Elisabeth wedi’i ofni.
- Roedd Ffrainc yn poeni am rym Sbaen – eisiau cynnal y cynghrairUndeb a ffurfiwyd union er budd y ddwy ochr, yn enwedig rhwng gwledydd. gyda Lloegr.
- Roedd Sbaen eisoes mewn rhyfel gyda Lloegr oherwydd gweithredoedd 'Cŵn y MôrMôr-ladron Seisnig oedd yn gysylltiedig â’r ymosodiadau ar Sbaen.' a digwyddiadau yn yr Iseldiroedd.
- Yn yr Alban - Brenin James VI oedd ar orsedd yr Alban, fe oedd etifedd Elisabeth, felly ni chymerodd unrhyw gamau i weithredu.
- Parhaodd y Saeson Catholig yn deyrngar i Elisabeth.