Cynllwynion Catholig - Ridolfi, Throckmorton, Babington
Roedd gwrthryfel Ieirll y Gogledd ac esgymuno Elisabeth gan y Pab yn profi i’r Cyfrin Gyngor fod presenoldeb Mari, Brenhines y Sgotiaid yn Lloegr yn broblem.
Yn ystod y 15 mlynedd nesaf, cynyddodd y bygythiad Catholig tuag at Elisabeth gyda chyfres o gynllwyniau yn ei herbyn. Roedd rhwydwaith ysbïo Walsingham bellach yn chwarae rhan hanfodol wrth ganfod a delio â’r bygythiadau hyn.
Cynllwyn Ridolfi 1571
Yn 1571, cyhuddwyd Roberto di Ridolfi, banciwr Eidalaidd Catholig, o geisio trefnu priodas rhwng Mari a Dug Norfolk, uchelwr Seisnig oedd hefyd yn gefnder i Elisabeth.
Y cynllun oedd cael y Catholigion Seisnig i ddisodli Elisabeth gyda help Sbaen, i Mari briodi Norfolk ac i’r wlad ddychwelyd at Gatholigiaeth Rufeinig.
Fodd bynnag, ddarganfyddodd Cecil a Walsingham y cynllwyn, ac arweiniodd hynny at ddienyddio Norfolk yn 1572.
Cynllwyn Throckmorton 1583
Yn 1582, clywodd Walsingham sïon am gynllwyn oedd yn cynnwys rhai JeswitiaidOffeiriaid a hyfforddwyd yn benodol i droi neu ail-droi pobl at Gatholigiaeth., o’r Alban, Llysgennad Sbaen de Mendoza a Mari. Sylweddolodd mai’r cysylltiad rhyngddyn nhw oedd Sais ifanc Catholig, Francis Throckmorton.
Cafodd Throckmorton ei arestio, ac wrth cael ei arteithio, cyfaddefodd i gynllwyn lle byddai Ffrainc a Sbaen yn ymosod ar Loegr, gan ryddhau Mari a’i gwneud hi’n frenhines.
Cafodd ei ddienyddio a symudwyd Mari i le mwy diogel yng Nghastell Tutbury, a’i diogelu gan PiwritanProtestant eithafol oedd eisiau puro’r Eglwys, cael gwared ar holl elfennau Catholigiaeth ac arwain bywyd plaen a syml. llym, Syr Amias Paulet.
Cynllwyn Babington 1586
Roedd rhwydwaith ysbïo Walsingham wedi bod yn brysur am dros 15 mlynedd, ac yn 1586, gallai brofi i Elisabeth bod gan Mari gysylltiad uniongyrchol â’r cynllwyn.
Daeth uchelwr Catholig ifanc Seisnig, Syr Anthony Babington, yn ganolog i’r cynllwyn i lofruddio Elisabeth a rhoi Mari ar yr orsedd.
Daethpwyd o hyd i lythyron mewn cod rhwng Babington a Mari, yn cynnig lladd Elisabeth, ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi am y cynllwyn. Ymatebion Mari oedd y prawf roedd Washington ei angen i gysylltu Mari yn uniongyrchol â’r cynllwyn.

Ym mis Awst 1586, arestiwyd Babington, ac wrth ei arteithio, cyfaddefodd ei ran yn y cynllwyn. Cafodd e a chwech o’r cynllwynwyr eraill eu dienyddio, er gwaethaf ei gynnig o £1,000 i Elisabeth ei arbed.