Cyfraniad merched at yr ymgyrch ryfel
O 1939, a thrwy gydol y Blitz, ymunodd nifer o ferched â sefydliad o’r enw Sefydliad Gwirfoddol y Menywod (Women’s Voluntary Service, WVS). Roedden nhw’n helpu mewn nifer o ffyrdd er mwyn lleihau’r dioddefaint. Roedd gan y grŵp yma dros filiwn o aelodau erbyn 1943 ac fel arfer roedd yn cynnwys merched hŷn.
Roedd eu gwaith yn cynnwys gwau balaclafas a sanau i filwyr, darparu lluniaeth i bobl oedd yn llochesu o dan y ddaear, a helpu pobl oedd wedi colli eu cartrefi yn ystod y bomio. Roedd merched yn casglu metel sgrap yr oedd ei angen ar gyfer yr ymgyrch ryfel. Yn Portsmouth, roedd y grŵp yma wedi casglu digon o fetel sgrap mewn pedair wythnos i lenwi pedwar cerbyd rheilffordd.
Nid oedd cyfraniad merched i’r rhyfel wedi cael ei drefnu’n iawn tan 1941, pan ddaeth y prinder llafurwyr i’r amlwg. O fis Rhagfyr 1941, consgriptwyd merched 19-30 oed ar gyfer gwaith rhyfel, ac erbyn 1943 roedd 17 miliwn o ferched naill ai yn y lluoedd arfog neu’n ymwneud â gwaith yn gysylltiedig â’r rhyfel. Roedd propaganda’r Llywodraeth yn annog merched i gefnogi’r ymgyrch ryfel. Y neges allweddol oedd There’s Not Much Women Can’t Do
.

Roedd merched yn gweithio mewn ffatrïoedd er mwyn cynhyrchu deunydd rhyfel allweddol, megis awyrennau, cerbydau ac arfau. Merched yn bennaf oedd yn gweithio yn y ffatri arfau anferth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a elwid yn ROF 53. Roedd 32,000 o bobl yn gweithio yno, ac roedd tua thri chwater y gweithlu yn ferched.
Roedd merched yn ymrestru gyda nifer o wahanol luoedd:
- Awyrlu Ategol y Menywod (Women’s Auxiliary Air Force, WAAF)
- Y Gwasanaeth Tiriogaethol Ategol (Auxiliary Territorial Service, ATS)
- Gwasanaeth Llyngesol Brenhinol y Menywod (Women’s Royal Naval Service, WRENS)
Erbyn diwedd y rhyfel yn 1945, roedd yna 450,000 o ferched yn y lluoedd arfog. Roedden nhw hefyd yn gweithio fel nyrsys yn yr ysbytai, yn cynnwys ysbytai milwrol. Roedd nifer o’r datryswyr côd yn Bletchley ParkYn ystod yr Ail Ryfel Byd, dyma oedd lleoliad y bobl oedd yn torri codau, a gyflogwyd gan y Llywodraeth. yn ferched. Ond, bron ym mhob galwedigaeth, er bod merched yn perfformio’r un tasgau â dynion, roedden nhw’n cael llai o gyflog.
Crëwyd Byddin Tir y Merched yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd oherwydd prinder llafurwyr ar ffermydd, ac roedd hynny yn hanfodol er mwyn sicrhau cynhyrchiant bwyd a defnyddio peiriannau fferm.