Bomio dinasoedd Prydain - Abertawe, Belfast, Glasgow
Cyn i’r rhyfel ddechrau, rhoddwyd mygydau nwy a llochesi Anderson i ddinasyddion, ac anogwyd pobl i’w hadeiladu yng ngwaelod eu gerddi er mwyn eu gwarchod rhag y bomiau ac ymosodiadau cemegol posibl.
Yn ffodus, ni ddefnyddiwyd nwy yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond roedd y llochesi yn hanfodol. Yn Llundain, ar ôl sawl noson o fomio diddiwedd a diffyg cwsg, aeth pobl i’r gorsafoedd tanddaearol i chwilio am ddiogelwch rhag yr ymosodiadau. Yng Nghaerdydd, roedd pobl yn defnyddio seleri’r castell i amddiffyn eu hunain.

Roedd propaganda amser rhyfel a’r wasg yn canmol ysbryd y Blitz er mwyn dangos bod y bobl yn unedig, yn ddewr ac yn ddiwyro.
Bomio dinasoedd
| Dinas | Canlyniad |
| Llundain | Bomiwyd Llundain bob nos rhwng 7 Medi a 2 Tachwedd. Gollyngwyd 13,500 tunnell o fomiau ffrwydrol iawn mewn 57 o ymosodiadau. Lladdwyd dros 15,000 o bobl, ac roedd 250,000 o bobl yn ddigartref. Bomiwyd adeiladau pwysig hefyd, megis Eglwys Gadeiriol St Paul, Tŷ’r Cyffredin a Phalas Buckingham, ac roedd y Brenin a’r Brenhines yn aml yn ymweld ag ardaloedd oedd wedi dioddef. Parhaodd y bomio yn 1941. |
| Coventry | Bomiwyd Coventry am y tro cyntaf ar 14 Tachwedd 1940. Ar yr un noson honno, gollyngwyd dros 30,000 o fomiau ffrwydrol, lladdwyd 554 o bobl a dinistriwyd 50,000 o dai. |
| Abertawe | Bomiwyd Abertawe ar 19-21 Chwefror 1941 wrth i’r porthladd, dociau a’r burfa olew gyfagos gael eu targedu. Lladdwyd 230 o bobl ac anafwyd 397 o bobl. Cafodd y cyfnod ei alw’n 'Blitz y Tair Noson'. |
| Belfast | Roedd yna bedwar ymosodiad yn rhan o Blitz Belfast yn ystod Ebrill a Mai 1941. Er enghraifft, ar ddydd Mawrth y Pasg, bu farw tua 900 o bobl ac anafwyd 1,500. Difrodwyd nifer o gartrefi’n ddifrifol ac roedd 150,000 o bobl yn ddigartref. |
| Glasgow | Roedd ardaloedd diwydiannol yr Alban yn dargedau allweddol i fomwyr yr Almaen. Roedd gan Glasgow lawer o ffatrïoedd ac roedd llongau cargo yn ymgasglu yn yr iardiau llongau ar Afon Clyde i ffurfio confois. Pan fomiwyd y ffatrïoedd a’r iardiau llongau yn ystod Blitz yr Alban, collodd cannoedd eu bywydau a gadawyd llawer mwy yn ddigartref. Gelwir y digwyddiad yn 'Blitz Clydebank'. |
| Dinas | Llundain |
|---|---|
| Canlyniad | Bomiwyd Llundain bob nos rhwng 7 Medi a 2 Tachwedd. Gollyngwyd 13,500 tunnell o fomiau ffrwydrol iawn mewn 57 o ymosodiadau. Lladdwyd dros 15,000 o bobl, ac roedd 250,000 o bobl yn ddigartref. Bomiwyd adeiladau pwysig hefyd, megis Eglwys Gadeiriol St Paul, Tŷ’r Cyffredin a Phalas Buckingham, ac roedd y Brenin a’r Brenhines yn aml yn ymweld ag ardaloedd oedd wedi dioddef. Parhaodd y bomio yn 1941. |
| Dinas | Coventry |
|---|---|
| Canlyniad | Bomiwyd Coventry am y tro cyntaf ar 14 Tachwedd 1940. Ar yr un noson honno, gollyngwyd dros 30,000 o fomiau ffrwydrol, lladdwyd 554 o bobl a dinistriwyd 50,000 o dai. |
| Dinas | Abertawe |
|---|---|
| Canlyniad | Bomiwyd Abertawe ar 19-21 Chwefror 1941 wrth i’r porthladd, dociau a’r burfa olew gyfagos gael eu targedu. Lladdwyd 230 o bobl ac anafwyd 397 o bobl. Cafodd y cyfnod ei alw’n 'Blitz y Tair Noson'. |
| Dinas | Belfast |
|---|---|
| Canlyniad | Roedd yna bedwar ymosodiad yn rhan o Blitz Belfast yn ystod Ebrill a Mai 1941. Er enghraifft, ar ddydd Mawrth y Pasg, bu farw tua 900 o bobl ac anafwyd 1,500. Difrodwyd nifer o gartrefi’n ddifrifol ac roedd 150,000 o bobl yn ddigartref. |
| Dinas | Glasgow |
|---|---|
| Canlyniad | Roedd ardaloedd diwydiannol yr Alban yn dargedau allweddol i fomwyr yr Almaen. Roedd gan Glasgow lawer o ffatrïoedd ac roedd llongau cargo yn ymgasglu yn yr iardiau llongau ar Afon Clyde i ffurfio confois. Pan fomiwyd y ffatrïoedd a’r iardiau llongau yn ystod Blitz yr Alban, collodd cannoedd eu bywydau a gadawyd llawer mwy yn ddigartref. Gelwir y digwyddiad yn 'Blitz Clydebank'. |
Roedd nifer o ddinasoedd mawr eraill, megis Birmingham, Bryste, Caerdydd, Lerpwl a Manceinion wedi cael eu bomio gan y LuftwaffeAwyrlu’r Almaen..
