Bywyd amser rhyfelFaciwîs a’r cymunedau newydd yng Nghymru

Ar ôl i’r rhyfel ddechrau ym Medi 1939, roedd bywyd ar fin newid yn sylweddol i Brydain, ei lluoedd arfog a’i dinasyddion. Sut wnaeth pobl Prydain ymdopi â’r profiad o ryfel?

Part ofHanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Faciwîs a’r cymunedau newydd yng Nghymru

Roedd rhyfel yn edrych yn dra thebygol o 1938 ymlaen, felly dechreuodd y Llywodraeth gynllunio sut i amddiffyn pobl oedd yn agored i niwed ac oedd angen eu symud o’r dinasoedd i gefn gwlad. Er enghraifft, symudwyd plant, merched beichiog a phobl ag anableddau i ardaloedd mwy diogel, a elwid yn ardaloedd lletyol.

Dechreuodd faciwîs gyrraedd ar 1 Medi 1939, pan symudwyd pobl i ardaloedd mwy diogel yng nghefn gwlad neu i ardaloedd oedd yn llai tebygol o gael eu targedu gan fomwyr yr Almaen. Roedd plant oedd yn faciwîs yn cael eu rhoi gyda theuluoedd lletyol. Cafodd llawer o ysgolion y dinasoedd eu cau, ac aeth yr athrawon gyda’r plant er mwyn parhau i’w haddysgu.

Roedd hon yn dasg enfawr wrth i tua 1.5miliwn o bobl symud o gwmpas y wlad er mwyn chwilio am ddiogelwch yn ystod y don gyntaf. Yn ystod y ‘Rhyfel Ffug’, aeth nifer o’r faciwîs yn ôl adref, dim ond i ddychwelyd pan ddechreuodd y Blitz.

Yng nghwm Rhondda, cafodd 33,500 o faciwîs o Lundain, Caerdydd a Bryste loches yng nghartrefi pobl leol.

Roedd profiadau’r faciwîs yn gymysg.

  • Roedd nifer yn cael eu croesawu ac yn teimlo’n rhan o’r teulu.
  • Roedd rhai yn mwynhau gwell safon bywyd nag a gawson nhw cyn y rhyfel.
  • Cafodd rhai eu cam-drin.
  • Roedd rhai yn gwlychu eu gwelyau ac yn cael hunllefau.
  • Roedd rhai yn cael eu defnyddio fel gweithwyr di dâl.
  • Dysgu iaith newydd - nid oedd pawb yng Nghymru yn siarad Saesneg, ac ar y cychwyn nid oedd faciwîs o Loegr yn gallu siarad Cymraeg.
  • Roedd rhai wedi cadw mewn cysylltiad ar ôl y rhyfel.
Poster o frawd a chwaer ifanc mewn pyjamas yn erbyn wal gyda’r testun; Helpwch blant y ddinas. Mae creu cartref newydd i faciwîs yn Wasanaeth Cenedlaethol. Cyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Iechyd.
Image caption,
Poster y Weinyddiaeth Iechyd