DegolionLluosi rhif degol â rhif cyfan

Mae degolion yn chwarae rhan bwysig mewn bywyd bob dydd, yn enwedig wrth ddefnyddio arian. Felly, mae’n holl bwysig dy fod yn deall sut maen nhw’n gweithio a sut i’w defnyddio.

Part ofMathemategDegolion

Lluosi rhif degol â rhif cyfan

Mae lluosi rhif degol â rhif cyfan yn debyg i luosi dau rif cyfan, ond rhaid i ti gofio:

  • Os oes un digid ar ôl y pwynt degol yn y cwestiwn, bydd un digid ar ôl y pwynt degol yn yr ateb.
  • Os oes dau ddigid ar ôl y pwynt degol yn y cwestiwn, bydd dau ddigid ar ôl y pwynt degol yn yr ateb.

Question

Cyfrifa:

\({2.43}\times{7}\)

Question

Cyfrifa:

\({2.4}\times{5}\)

Yn yr enghraifft uchod roedd gofyn i ti gyfrifo \({2.4}\times{5}\).

\({2}\times{5} = {10}\), felly rwyt ti’n edrych am ateb sydd ychydig yn fwy na \({10}\). Felly mae \({12}\) i’w weld yn ateb synhwyrol.