DegolionLluosi degolion â 10, 100 a 1,000

Mae degolion yn chwarae rhan bwysig mewn bywyd bob dydd, yn enwedig wrth ddefnyddio arian. Felly, mae’n holl bwysig dy fod yn deall sut maen nhw’n gweithio a sut i’w defnyddio.

Part ofMathemategDegolion

Lluosi degolion â 10, 100 a 1,000

Lluosi â 10

Wrth luosi rhif degol â \({10}\), bydd pob ffigur yn symud un lle i’r chwith.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 2, Diagram yn egluro lluosi degolyn â 10, Lluosi rhif degol â 10 Beth ydy 4.25 x 10?

Lluosi â 100

Wrth luosi â \({100}\), bydd pob ffigur yn symud dau le i’r chwith.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 2, Diagram yn egluro lluosi degolyn â 100, Lluosi rhif degol â 100 Beth ydy 0.103 x 100?

Lluosi â 1,000

Wrth luosi â \({1,000}\), bydd pob ffigur yn symud tri lle i’r chwith.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 2, Diagram yn egluro lluosi degolyn â 1000, Lluosi rhif degol â 1,000 Beth ydy 0.04 x 1,000?

Question

Pa un ydy’r mwyaf: \({0.005}\times{10}\) neu \({0.0004}\times{1,000}\)?