DegolionGwerth lle a threfnu degolion

Mae degolion yn chwarae rhan bwysig mewn bywyd bob dydd, yn enwedig wrth ddefnyddio arian. Felly, mae’n holl bwysig dy fod yn deall sut maen nhw’n gweithio a sut i’w defnyddio.

Part ofMathemategDegolion

Gwerth lle a threfnu degolion

Gwerthoedd lle degolion

Rydyn ni’n defnyddio pwynt degol i wahanu unedau oddi wrth rannau o rif cyfan (megis degfed, canfed, milfed ayyb).

  • Degfed ran ydy \({0.1}\), neu \(\frac{1}{10}\) o uned.
  • Canfed ran ydy \({0.01}\), neu \(\frac{1}{100}\) o uned.
  • Milfed ran ydy \({0.001}\), neu \(\frac{1}{1,000}\) o uned.

Yn \({52.13}\), gwerth y ffigur \({1}\) ydy \(\frac{1}{10}\), a gwerth y ffigur \({3}\) ydy \(\frac{3}{100}\).

Trefnu degolion

Wrth drefnu rhifau, dylet ti bob amser gymharu’r digidau ar y chwith yn gyntaf.

Er enghraifft, pa un ydy’r mwyaf, \({2.301}\) ynteu \({2.32}\)?

Tabl i gymharu'r ddau degolyn: 2.301 a 2.32

Mae gan y ddau rif ddwy uned a thri degfed, ond does gan \({2.301}\) ddim canfed, tra bod gan \({2.32}\) ddau ganfed. Felly, mae \({2.32}\) yn fwy na \({2.301}\).

Adio sero

Ffordd arall o edrych arni ydy ychwanegu sero at ddiwedd \({2.32}\) (dydy hyn ddim yn newid ei werth gan ei fod ar ôl y pwynt degol).

\({2.320}\) a \({2.301}\) ydy’r ddau rif nawr ac mae’n eitha hawdd gweld bod \({2.320}\) yn fwy (yn union fel y mae \({2,320}\) yn fwy na \({2,301}\)).

Question

Yn y rhif \({3.546}\), beth ydy gwerth y ffigur \({4}\)?

Question

Rho’r rhifau canlynol mewn trefn, o’r lleiaf i’r mwyaf: \({3.2}\), \({3.197}\), \({3.02}\), \({3.19}\)