DegolionAdio a thynnu degolion

Mae degolion yn chwarae rhan bwysig mewn bywyd bob dydd, yn enwedig wrth ddefnyddio arian. Felly, mae’n holl bwysig dy fod yn deall sut maen nhw’n gweithio a sut i’w defnyddio.

Part ofMathemategDegolion

Adio a thynnu degolion

Wrth adio a thynnu degolion, cofia gadw’r pwyntiau degol yn union o dan ei gilydd yn y cwestiwn a’r ateb.

Adio degolion

Question

Mae Dafydd yn gwneud ychydig o waith coed. Mae’n prynu darn o bren \({2}~m\) o hyd. Mae angen torri dau ddarn o bren – un yn \({0.6}~m\) o hyd a’r llall yn \({1.02}~m\).

Beth ydy cyfanswm hyd y pren y mae angen i Dafydd ei dorri?

Diagram o lif a thri darn o goed

Tynnu degolion

Question

Roedd gan Dafydd ddarn o bren \({2}~m\) o hyd ar y dechrau. Beth ydy hyd y darn pren sydd ar ôl?