DegolionRhannu degolion â 10, 100, 1,000

Mae degolion yn chwarae rhan bwysig mewn bywyd bob dydd, yn enwedig wrth ddefnyddio arian. Felly, mae’n holl bwysig dy fod yn deall sut maen nhw’n gweithio a sut i’w defnyddio.

Part ofMathemategDegolion

Rhannu degolion â 10, 100, 1,000

Rhannu â 10

Wrth rannu â \({10}\), bydd pob ffigur yn symud un lle i’r dde. Bydd cannoedd yn mynd yn ddegau, degau’n mynd yn unedau, unedau’n mynd yn ddegfedau a degfedau’n mynd yn ganfedau.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 2, Diagram yn egluro rhannu degolyn â 10, Rhannu rhif degol â 10 Beth ydy 27 wedi’i rannu â 10?

Rhannu â 100

Wrth rannu â \({100}\), bydd pob ffigur yn symud dau le i’r dde.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 2, Diagram yn egluro rhannu degolyn â 100, Rhannu rhif degol â 100 Beth ydy 2 wedi’i rannu â 100?

Rhannu â 1,000

Wrth rannu â \({1,000}\), bydd pob ffigur yn symud tri lle i’r dde.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 2, Diagram yn egluro rhannu degolyn â 1000, Rhannu rhif degol â 1,000 Beth ydy 30 wedi’i rannu â 1,000?