Sector, segment ac arc - Uwch yn unigPerimedr sector
Weithiau mae angen i ni wybod sut i gyfrifo gwerthoedd ar gyfer rhannau penodol o’r cylch. Gall y rhain gynnwys hyd arc, arwynebedd a pherimedr sector ac arwynebedd segment.
Y perimedr yw’r pellter yr holl ffordd o amgylch y tu allan i siâp. Gallwn ganfod perimedr sector drwy ddefnyddio’r hyn rydyn ni’n ei wybod am ganfod hyd arc.
Ffurfir sector rhwng dau radiws ac arc. I ganfod y perimedr, mae angen i ni adio’r gwerthoedd hyn at ei gilydd.