Ensymau [TGAU Cemeg yn unig]
Catalyddion biolegol yw ensymau, ac maen nhw’n cael eu cynhyrchu gan organebau byw i gyflymu’r adweithiau biocemegolProsesau cemegol sy'n digwydd mewn organebau byw. sy’n hanfodol er mwyn iddynt oroesi.
Heb ddefnyddio catalyddion, byddai’r prosesau biocemegol hyn (fel resbiradaethAdwaith cemegol sy’n digwydd mewn celloedd byw, gan ddefnyddio glwcos ac ocsigen i ryddhau'r egni sydd ei angen ar organebau i fyw. Carbon deuocsid a dŵr yw sgil gynhyrchion resbiradaeth. a treuliadTorri moleciwlau bwyd mawr, anhydawdd yn foleciwlau bach, hydawdd.) yn digwydd yn rhy araf a fyddai’r organeb ddim yn goroesi.
Mae angen gwahanol amodau ar wahanol ensymau i weithio ar eu hactifedd uchaf (sef yr amodau optimaidd), ond mae angen tymheredd agos at 37°C ar y rhan fwyaf ohonynt (tymheredd y corff dynol). Os aiff y tymheredd yn uwch na’r tymheredd optimaidd, mae’r ensym yn gallu cael ei ddadnatureiddio ac ni fydd yn gweithio’n iawn.
Mae ensymau’n aml yn fwy effeithiol nag unrhyw gatalyddion anfiolegol eraill, felly rydyn ni’n eu defnyddio nhw’n fasnachol i gyflymu nifer o wahanol adweithiau. Mae hyn yn cynnwys eu defnyddio nhw:
- mewn powdr golchi
- i fragu (defnyddio burum i eplesu siwgr i ffurfio ethanol)
- i wneud caws