Effaith catalyddion
Gallwn ni gynyddu cyfradd adwaith drwy ychwanegu catalyddMae catalydd yn newid cyfradd adwaith cemegol heb gael ei newid ei hun gan yr adwaith. addas.
Dim ond swm bach iawn o gatalydd sydd ei angen i gynyddu cyfradd adwaith rhwng symiau mawr o adweithyddion.
Mae catalydd yn benodol i adwaith penodol:
- mae gwahanol gatalyddion yn catalyddu gwahanol adweithiau
- does dim catalydd addas i bob adwaith
Graff yn dangos pa mor effeithiol yw gwahanol ocsidau metel fel catalyddion ar gyfer dadelfennu hydrogen perocsid
Mae’r tabl hwn yn crynhoi rhai catalyddion cyffredin sy’n cael eu defnyddio mewn diwydiant a’r adweithiau maen nhw’n eu catalyddu.
| Catalydd | Adwaith mae’n ei gatalyddu |
| Haearn | Gwneud amonia o nitrogen a hydrogen |
| Platinwm | Gwneud asid nitrig o amonia |
| Fanadiwm(V) ocsid | Gwneud asid sylffwrig |
| Catalydd | Haearn |
|---|---|
| Adwaith mae’n ei gatalyddu | Gwneud amonia o nitrogen a hydrogen |
| Catalydd | Platinwm |
|---|---|
| Adwaith mae’n ei gatalyddu | Gwneud asid nitrig o amonia |
| Catalydd | Fanadiwm(V) ocsid |
|---|---|
| Adwaith mae’n ei gatalyddu | Gwneud asid sylffwrig |