Ffactorau sy’n effeithio ar gyfradd adwaithEffaith crynodiad a gwasgedd ar gyfradd

Mae cyfraddau adweithiau cemegol yn cynyddu neu'n lleihau gan ddibynnu ar ffactorau fel tymheredd, gwasgedd a golau. Mae catalydd yn newid cyfradd adwaith heb iddo ei hun newid yn ystod yr adwaith.

Part ofCemegCyfradd newid cemegol

Effaith crynodiad a gwasgedd ar gyfradd

Gallwn ni newid cyfradd adwaith cemegol drwy newid crynodiad adweithydd mewn hydoddiant, neu adweithydd nwyol.

Diagram o grynodiad isel ac uchel o adweithydd neu wasgedd isel ac uchel adweithydd nwyol.

Os ydyn ni’n cynyddu’r crynodiad neu’r gwasgedd:

  • mae mwy o ronynnau o’r adweithyddion i bob uned cyfaint (hynny yw, mae llai o le rhwng y gronynnau o’r adweithyddion)
  • mae mwy o siawns y bydd y gronynnau’n gwrthdaro, sy’n arwain at fwy o wrthdrawiadau llwyddiannus bob eiliad
  • mae cyfradd yr adwaith yn cynyddu
Graff cyfanswm màs y cynnyrch yn erbyn amser o ddechrau'r adwaith, ar grynodiad neu wasgedd uchel ac isel.

Dyma sut mae llinell graff adwaith ar grynodiad (mewn hydoddiant) neu wasgedd (mewn nwy) uwch yn wahanol i linell yr un adwaith ar grynodiad neu wasgedd is:

  • mae’r yn fwy serth i ddechrau
  • mae’n mynd yn llorweddol yn gynt

Mae hyn yn dangos bod cyfradd yr adwaith yn fwy ar y crynodiad neu wasgedd uwch.

More guides on this topic