Effaith arwynebedd arwyneb ar gyfradd
Mae modd cynyddu cyfradd adwaith cemegol drwy gynyddu arwynebedd arwyneb adweithydd solet. Mae hyn yn cael ei wneud drwy dorri’r sylwedd yn ddarnau bach, neu drwy ei falu’n bowdr.
I grynhoi:
- darnau mawr = arwynebedd arwyneb bach
- darnau bach (powdr) = arwynebedd arwyneb mawr
Os ydyn ni’n cynyddu arwynebedd arwyneb adweithydd:
- mae mwy o ronynnau yn gallu dod i gysylltiad â’r adweithydd arall
- mae mwy o siawns y bydd gronynnau’n gwrthdaro, sy’n arwain at fwy o wrthdrawiadau llwyddiannus bob eiliad
- mae cyfradd yr adwaith yn cynyddu
Dyma sut mae llinell graff adwaith ag adweithydd fel powdr yn wahanol i linell yr un adwaith â’r adweithydd fel lympiau:
- mae’r graddiantMewn graff, y graddiant ydy goledd y llinell. Po fwyaf ydy’r graddiant, po fwyaf fydd cyfradd y newid. yn fwy serth i ddechrau
- mae’n mynd yn llorweddol yn gynt
Mae hyn yn dangos bod cyfradd yr adwaith yn fwy pan mae’r arwynebedd arwyneb yn fwy.
Bydd adweithiau yn cynhyrchu yr un cyfaint os yw holl ffactorau’r adweithyddion yr un fath, hynny yw màs y solid, cyfaint yr asid. Os bydd un o’r ffactorau yn cael ei haneru, bydd yr adwaith yn cynhyrchu hanner y cyfaint. Os bydd un o’r ffactorau yn cael ei ddyblu, bydd yr adwaith yn cynhyrchu dwbl y cyfaint.
Mae hyn yn berthnasol i bob ffactor sy’n gallu newid y gyfradd.