Mesur cyfraddau adweithiau
Gallwn ni ganfod cyfradd adwaith drwy fesur faint o’r cynnyrchSylwedd sy’n cael ei ffurfio mewn adwaith cemegol. sy’n ffurfio mewn cyfnod penodol. Rydyn ni’n aml yn mesur màsFaint o fater sydd mewn gwrthrych. Rydyn ni’n mesur màs mewn gramau (g). cynnyrch solid mewn gramau, ac yn aml yn mesur cyfaintMae cyfaint siâp tri dimensiwn yn dangos faint o le neu ofod sydd ynddo, ee cyfaint diod mewn can ydy 330 ml. cynnyrch nwyol mewn cm3.
Mae’r cyfnod rydyn ni’n ei ddewis yn gallu dibynnu ar gyfradd yr adwaith. Er enghraifft, gallwn ni ddewis cyfnod o eiliadau ar gyfer adwaith cyflym neu gyfnod o funudau ar gyfer adwaith araf.
Rydyn ni’n aml yn ysgrifennu unedau cyfradd adwaith fel:
- g/s neu g/mun
- cm3/s neu cm3/mun
Mae tri phrif ddull o fesur cyfradd:
- mesur cyfaint y nwy mae adwaith yn ei ryddhau dros amser
- mesur y golled màs dros amser o adwaith sy’n cynhyrchu nwy
- mesur faint o olau sy’n mynd drwy gymysgedd adwaith (wrth i waddod ffurfio) dros amser - gallwn ni wneud hyn drwy edrych ar y cymysgedd neu drwy ddefnyddio synhwyrydd golau a chofnodydd data