Damcaniaeth gwrthdrawiadau [Haen uwch yn unig]
Fydd gwrthdrawiad heb ddigon o egni ddim yn cynhyrchu adwaith.
Image caption, 1. Dau bâr o ronynnau’n symud tuag at ei gilydd
Image caption, 2. Mae’r parau nawr yn cyffwrdd
Image caption, 3. Mae’r parau nawr yn symud oddi wrth ei gilydd
1 of 3
End of image gallery
Rhaid i’r gronynnau sy’n gwrthdaro fod â digon o egni i’r gwrthdrawiad fod yn llwyddiannus neu’n effeithiol a chynhyrchu adwaith.
Yr isafswm egni sydd ei angen er mwyn i’r adwaith ddigwydd yw’r egni actifadu.
Mae cyfradd adwaith yn dibynnu ar gyfradd y gwrthdrawiadau llwyddiannus rhwng gronynnau’r adweithyddion. Y mwyaf o wrthdrawiadau llwyddiannus sydd, y cyflymaf fydd cyfradd yr adwaith.