Mesur cyfradd wrth gynhyrchu nwy
Mae’r cyfarpar sydd ei angen yn dibynnu ar natur y cynnyrch sy’n cael ei fesur.
Màs
Rydyn ni’n mesur màs sylwedd - solid, hylif neu nwy - â chlorian. Gallem ni gysylltu’r glorian màs â chofnodydd data i fesur y lleihad màs yn erbyn amser yn gyson a chynhyrchu graff ar unwaith. Dydy’r cofnodydd data ddim yn gwneud y glorian màs yn fwy manwl gywir. Rydyn ni’n defnyddio gwlân cotwm yng ngwddf y fflasg oherwydd mae’n gadael i’r nwy ddianc.
Cyfaint
Rydyn ni fel arfer yn mesur cyfaint nwy â chwistrell nwy (neu weithiau â silindr mesur â’i ben i lawr) os yw’r adwaith cemegol yn cynhyrchu nwy, er enghraifft metel yn adweithio ag asid i gynhyrchu hydrogen.
Manteision chwistrell nwy/anfanteision jar nwy:
- mae graddfa fanwl gywir ar chwistrell nwy, does dim un ar jar nwy
- gallai’r tiwb o dan y cafn lithro i ffwrdd oddi tan y jar nwy
Manteision jar nwy/anfanteision chwistrell:
- dim oediad amser wrth gysylltu’r chwistrell
- mae’r holl nwy sy’n cael ei gynhyrchu’n dod o gymysgedd yr adwaith