Ffactor graddfa ffracsiynol
Rwyt ti’n gwybod eisoes bod maint helaethiad yn cael ei ddisgrifio yn ôl ei ffactor graddfa.
Er enghraifft, mae ffactor graddfa o \({2}\) yn golygu bod pob hyd yn y siâp newydd \({2}\) waith maint y gwreiddiol. Mae ffactor graddfa o \({3}\) yn golygu bod y siâp newydd \({3}\) gwaith maint y gwreiddiol.
Mae’n dilyn felly bod ffactor graddfa o \(\frac{1}{2}\) yn golygu bod pob hyd yn y siâp newydd hanner maint y gwreiddiol.
Enghraifft
I helaethu’r triongl â ffactor graddfa \(\frac{1}{2}\) a chanol helaethiad O, gwna fel a ganlyn:
Image caption, Helaethu triongl â ffactor graddfa o un hanner
Triongl ongl sgwâr.
Image caption, Helaethu triongl â ffactor graddfa o un hanner
Tynnu llinell o bwynt O i bwynt A y triongl.
Image caption, Helaethu triongl â ffactor graddfa o un hanner
Marcio pwynt ffactor graddfa A' ar y linell, hanner y pellter rhwng pwynt O a phwynt A (hynny yw, fel bo OA’ = ½ x OA).
Image caption, Helaethu triongl â ffactor graddfa o un hanner
Estyn llinell o bwynt O i B, ac o bwynt O i C, a nodi pwyntiau ffactor graddfa newydd, hanner y pellter ar linellau OB ac OC.
Image caption, Helaethu triongl â ffactor graddfa o un hanner
Cysylltu’r pwyntiau newydd i greu triongl llai.
1 of 5
Question
Beth ydy ffactor graddfa’r helaethiad yn y diagram hwn?
Ffactor graddfa’r helaethiad ydy \(\frac{1}{3}\).
Cofia fod \({OA}\) yn \({6}\) uned ac \({OA}\)' yn \({2}\) uned.
Mae \({BC}\) yn \({3}\) uned a \({B}\)'\({C}\)' yn \({1}\) uned, felly mae pob ochr ar y ddelwedd yn \(\frac{1}{3}\) o hyd y siâp gwreiddiol.
Cofia wirio pa un ydy’r gwrthrych a pha un ydy’r ddelwedd, er mwyn peidio â drysu’r ffactorau graddfa. Er enghraifft, mae’n bosib camgymryd ffactor graddfa o \({2}\) am ffactor graddfa o \(\frac{1}{2}\), neu ffactor graddfa o \({3}\) am ffactor graddfa o \(\frac{1}{3}\).